Home » Cerflun yn dod i Gaerdydd
Cymraeg

Cerflun yn dod i Gaerdydd

Waiting for the emergency services: Injured Pat and Good Samaritan Paul O’Connell.
Cymru'n cofio: P ob dyn yn cofio.
Cymru’n cofio: P ob dyn yn cofio.

MAE’R CERFLUN 7.5 metr, a ddyluniwyd gan Mark Humphrey, yn dangos milwr pres manwl o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n rhan o ymgyrch Cofio Pob Dyn y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ar ôl ei ddadorchuddio yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain, mae’r cerflun ar daith pedair blynedd o amgylch Prydain, gan ymweld â nifer o leoliadau. Bydd y cerflun yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd tan 5 Mai.

Fel rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-18, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, swyddfa Arglwydd Faer Caerdydd ac Amgueddfa’r Firing Line i nodi canmlwyddiant ers cychwyn ymgyrch Gallipoli.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’n anrhydedd fawr cael croesawu cerflun Cofio Pob Dyn y Lleng Brydeinig Frenhinol i Gymru.

“Mae’r cerflun gwych hwn yn enghraifft arbennig o rôl hanfodol y Lleng Brydeinig Frenhinol yn sicrhau bod milwyr y gorffennol a’r presennol yn cael eu cofio a’u cefnogi. Mae’r Lleng yn arwain y ffordd o ran ein galluogi i anrhydeddu eu gwasanaeth a’r aberth a wnaethant mewn gwrthdaro yma a thramor.

“Yfory, byddaf yn ymuno â’i Mawrhydi y Frenhines ac arweinwyr gwleidyddol eraill yn Abaty Westminster a’r Senotaff yn Llundain i gofio a thalu teyrnged i bawb a gymerodd ran yn ymgyrch Gallipoli.

“Mae’r diwrnod cyn diwrnod Anzac yn amser priodol i ddadorchuddio’r cerflun hwn yma yng Nghaerdydd, ar adeg lle rydym yn cofio’r golled bron gan mlynedd yn ôl yn Gallipoli.”

online casinos UK

Dywedodd Phil Jones, Rheolwr Cymru ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol:

“Yn y blynyddoedd o nodi canmlwyddiant ers y rhyfel a arweiniodd at y pabi fel symbol o gofio a gobaith, mae rôl y Lleng yr un mor gyfoes a hanfodol ag erioed, gan gofio’r rheini a fu farw a chefnogi’r byw tua’r dyfodol.

“Fel ceidwad cenedlaethol y cofio, rydym yn gobeithio y bydd y cerflun yn ganolbwynt ar gyfer y cofio cyfoes yn ystod blynyddoedd y canmlwyddiant.”

Author