Home » Cofiwch alw heibio i gael eich ysbrydoli
Cymraeg

Cofiwch alw heibio i gael eich ysbrydoli

3950600_300MAE prosiect sy’n ceisio rhoi cymorth i egin-fusnesau neu egin-ddyfeiswyr yn mynd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn y Sir, yn ystod yr hydref hwn.

Prosiect INSPIRE sy’n cynnal y digwyddiadau hyn a’u hamcan yw rhoi cyfleoedd i ddarpar entrepreneuriaid a darpar fusnesau gael gwybod sut i feddwl mewn modd creadigol a masnachol a sut i ddatblygu eu syniadau.

“Mae hwn yn gyfle bendigedig i feithrin sgiliau creadigol a masnachol a fydd yn ysbrydoli pobl ac yn rhoi iddynt y sgiliau er mwyn bod yn arloesol,” meddai Peter Lord, Swyddog Prosiect INSPIRE.

Mae prosiect INSPIRE (Agor Llwybrau ar gyfer Arloeswyr, Ymchwilwyr a Mentrwyr) yn cael ei ran-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Rhaglen Iwerddon-Cymru 2013 ac mae e’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro a’r Sefydliad Technoleg yn Carlow.

Bydd y sesiynau galw heibio ar gael i bawb yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn Siop Spirit of Free Enterprise yn 44 Stryd Fawr, Hwlffordd ac yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, ar y dyddiadau hyn:

28 Awst – 10am hyd 3pm yn Siop Spirit of Enterprise, Hwlffordd

online casinos UK

29 Awst – 10am hyd 3pm yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro

4 Medi – 10am hyd 3pm yn Siop Spirit of Enterprise, Hwlffordd

5 Medi – 10am hyd 3pm yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro

11 Medi – 10am hyd 3pm yn Siop Spirit of Enterprise, Hwlffordd

12 Medi – 10am hyd 3pm yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro

Am ragor o wybodaeth cofiwch fwrw golwg ar www.inspireirelandwales.eu neu gallwch ffonio 01646 689303 neu anfon e-bost at [email protected].uk

Author