Home » Comisiwn Ffiniau i Gymru yn recriwtio Comisiynwyr Cynorthwyol
Cymraeg

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn recriwtio Comisiynwyr Cynorthwyol

MAE’R Comisiwn Ffiniau i Gymru yn recriwtio pedwar Comisiynydd Cynorthwyol (gan gynnwys un swydd wrth gefn) i gynorthwyo gwaith yr Arolwg 2023 o etholaethau seneddol Cymru.

Bydd y Comisiynwyr Cynorthwyol yn cadeirio’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhelir ledled Cymru yn gynnar yn 2022 wrth i’r Comisiwn ofyn i’r cyhoedd gyflwyno eu barn ar y cynigion cychwynnol caiff eu cyhoeddi ym mis Medi 2021.

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn chwilio am unigolion sydd yn onest a gyda annibyniaeth meddwl, a all weithio’n gywir ac yn gyflym dan bwysau, gan ystyried manylion yn gyflym, a dadansoddi llawer iawn o wybodaeth yn wrthrychol.

Rhaid i ymgeiswyr allu cynhyrchu argymhellion clir a chryno ar sail tystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gweithio’n dda fel rhan o dîm, egluro gweithdrefnau, ysbrydoli parch a hyder, a chynnal awdurdod wrth gael eu herio, yn enwedig mewn cyd-destun gwrandawiad cyhoeddus.

Mae profiad o gynnal a rheoli gwrandawiadau cyhoeddus gyda chyfranogiad personol a rhithwir yn hanfodol ar gyfer y rôl, ynghyd â’r gallu i drin pawb â pharch a sensitifrwydd beth bynnag fo’u cefndir.

Rhaid io leiaf un o’r Comisiynwyr Cynorthwyol a benodir fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.

online casinos UK

Bydd Comisiynwyr Cynorthwyol yn derbyn tâl o £ 505.50 y dydd (£ 252.75 y hanner diwrnod).

Yn trafod y recriwtio, dywedodd Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Mrs Ustus Jefford DBE:

“Bydd dod yn Gomisiynydd Cynorthwyol ar gyfer yr arolwg hwn yn rhoi cyfle i chi gyflawni rôl allweddol yn ystod y broses hanesyddol hon wrth i etholaethau Cymru gael eu newid yn sylweddol.

“Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn rhan hollbwysig o unrhyw arolwg. Po fwyaf yr ymgysylltir, y cryfaf y bydd ein cynigion.

“A chithau’n Gomisiynydd Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rhan annatod yn y broses, gan sicrhau ein bod yn casglu safbwyntiau’r cyhoedd, eu helpu i gyflwyno eu safbwyntiau yn y ffordd fwyaf effeithiol, a helpu i gyfleu’r safbwyntiau hynny yn ôl i’r Comisiwn er mwyn iddynt gael yr effaith fwyaf posibl ar y cynigion a wnawn.”

Rhaid gwneud cais i [email protected] cyn 23.59pm ar 05 Gorffennaf 2021. Mae’r holl fanylion angenrheidiol ar wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, comffin-cymru.gov.uk

Author