Home » Contract pren yn rhoi hwb o £100 miliwn i economi Cymru
Cymraeg

Contract pren yn rhoi hwb o £100 miliwn i economi Cymru

logs

MEWN datblygiad pwysig yn niwydiant pren Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwyddo contract hirdymor pwysig gydag un o brif felinau llifio Cymru. 

Bydd y contract gyda melin goed BSW Timber ym Mhontnewydd ar Wy yn werth mwy nag £20 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru ac oddeutu £100 miliwn i economi Cymru. Mi fydd y contract yn gwarantu cyflenwad o 600,000 metr ciwbig o larwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd o ystâd goed Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â chontractau presennol gyda BSW i gyflenwi 700,000 metr ciwbig o sbriws dros yr un cyfnod. Bydd y contract, sef cymysgedd o bren ar ochr ffyrdd (wedi’i gwympo’n barod) a choed sy’n sefyll, yn helpu i gynnig sefydlogrwydd i’r diwydiant ac yn ei alluogi i ddatblygu marchnadoedd newydd ar gyfer coed llarwydd sydd wedi’u cwympo. Y llarwydd sy’n cael eu cwympo yw un o’r gweithrediadau gwaith coed mwyaf a welodd Cymru erioed i arafu lledaeniad Phytophthora ramorum, sef clefyd sydd wedi heintio mwy na 6 miliwn o goed yng Nghymru. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae BSW Timber wedi buddsoddi’n helaeth yn y felin lifio yng Nghymru o ganlyniad i gontractau hirdymor eraill gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’i ragflaenwyr. Mae’r datblygiad diweddaraf wedi galluogi BSW i greu cynlluniau manwl ar gyfer ehangu’r gwaith trwy ddefnyddio gwahanol feintiau a rhywogaethau o goed wedi’u torri i esgor ar amryw byd o atebion ar gyfer y marchnadoedd adeiladu, ffensio a nwyddau gerddi. Bydd mwy o fanylion am y buddsoddiad yn Y Bont Newydd ar Wy yn cael eu rhyddhau’n ddiweddarach yn 2014. Yr un pryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant pren i ddatblygu mwy ar farchnadoedd newydd, yn ogystal â chael y diwydiant adeiladu i ddefnyddio’r llarwydd i adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru. Yn draddodiadol pren o fath arall, fel sbriws, a ddefnyddid i adeiladu; ond mae llarwydd yr un mor addas fel deunydd adeiladu. Mae datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer y sector prosesu’n hanfodol i’r diwydiant, oherwydd bydd mwy o larwydd ar gael yn ystod y deng mlynedd nesaf oherwydd yr holl waith cwympo. Ers i’r clefyd gael ei ddarganfod yng Nghymru yn 2010, mae 6,000 hectar (14,500 acer) a mwy o goetiroedd wedi cael eu heintio – sy’n cyfateb i oddeutu 6 miliwn o goed. Hyd yn hyn, mae mwy na 2 filiwn o larwydd ar ystâd goed Llywodraeth Cymru wedi’u cwympo, gyda mwy o waith yn yr arfaeth mewn ardaloedd fel Coedwig Cwmcarn. Yn ôl Tony Hackney, Prif Weithredwr BSW Timber: “Mae’r cytundeb cyflenwi hirdymor yma’n arwydd o gryn hyder yn BSW Timber a diwydiant pren Cymru. “Mae’n caniatáu inni gynllunio ar gyfer y dyfodol trwy ganolbwyntio ar anghenion a gofynion y farchnad, gan ein galluogi wedyn i fuddsoddi’n hyderus yn natblygiad ein melin lifio yn Y Bontnewydd ar Wy. “Bydd hyn oll yn arwain at fwy o sifftiau a mwy o swyddi i’r ardal, a bydd sicrhau’r cyflenwad deng mlynedd yn caniatáu inni fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu’r safle, gan atgyfnerthu ein haddewid i wneud yn fawr o’n cyflenwad a’n gallu i gynhyrchu pren ‘cartref’.” Meddai Trefor Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Dyma newyddion da i’r diwydiant pren yng Nghymru. Mae’n rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei wir angen i un o’r cwmnïau mwyaf yn niwydiant pren Cymru. “Mi fyddan nhw’n gwneud cyfraniad mawr at gynaeafu a marchnata llarwydd sydd wedi’u cwympo yng Nghymru. “Hefyd, rydym yn y broses o gytuno ar gontractau pellach yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal cyflenwad da o bren i’r diwydiant.” Hyd yn hyn mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwympo mwy na 2 filiwn o larwydd ac wedi rheoli’r cyflenwad yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gormod o bren yn cael ei roi ar y farchnad a sicrhau gwell tegwch i’r diwydiant.

Author