Home » Croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant
Cymraeg

Croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant

BYDD croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd, a fydd yn cael ei chynnal yn y Gogledd, wrth i’r mudiad ddathlu ei chanmlwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw.

Dyma’r Eisteddfod yr Urdd gyntaf i’w chynnal wyneb yn wyneb ers pandemig Covid, ar ôl iddi gael ei chynnal yn rhithiol am ddwy flynedd. Mae mynediad i Eisteddfod yr Urdd yn rhad ac am ddim eleni hefyd, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai cyllid ar gael at y diben hwnnw.

Eisteddfod yr Urdd yw’r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop, ac ymunodd y Prif Weinidog â phobl ifanc yn Norwy yn gynharach yn y mis i hyrwyddo ei neges ryngwladol o heddwch ac ewyllys da.

Cyn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog: “Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i’r Urdd am sawl rheswm.  Mae’n dathlu’i chanmlwyddiant, sy’n gamp ryfeddol, ac mae pobl yn gallu dod ynghyd yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers dwy flynedd a mwy.

 “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i’r digwyddiad eleni. Dyma gyfle inni ddangos ein gwerthfawrogiad o waith yr Urdd dros y ganrif ddiwethaf.

“Mae’r Urdd yn fudiad sy’n gweithio ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’n cynnig croeso i bawb beth bynnag eu cefndir. Pa ffordd well o ddathlu hynny na chynnig mynediad am ddim i bawb?

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod eleni ac rwy’n gwybod bod croeso cynnes iawn i’r ŵyl yn Sir Ddinbych ac ar draws y Gogledd.”

Author