Home » Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn genedlaethol am y tro cyntaf!
Cymraeg

Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn genedlaethol am y tro cyntaf!

YR WYTHNOS ddiwethaf (07-11/06/2021) fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd dros Gymru gyfan gymryd rhan yn rownd derfynol cenedlaethol Cwis Dim Clem am y tro cyntaf erioed.

Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg hwyliog i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru a ddechreuodd yn Sir Gâr yn 2015. Ers hynny mae’r cwis wedi datblygu yn rhanbarthol ac eleni yn digwydd yn genedlaethol am y tro cyntaf. Gwnaeth 17 o ysgolion ar draws Cymru geisio am y marciau uchaf er mwyn cyrraedd y brig.

Roedd dros 150 o ysgolion a dros 3,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Un o’r rhain oedd Heidi, disgybl yn Ysgol Griffith Jones ger San Clêr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o ardal Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywed; 

“Dwi wedi mwynhau dysgu am y wlad dwi’n byw ynddi ac am ei hanes.”

Roedd yr ymateb yn wych ar draws Cymru gyda nifer o ysgolion yn mwynhau cystadlu am y tro cyntaf. Un o’r ysgolion hyn oedd Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen a ddaeth i’r brig yn ardal Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.

Dywed Lynne Hughes-Williams, athrawes yn Ysgol Gwaun Gynfi; 

online casinos UK

“Mae’r criw wedi wir mwynhau cymryd rhan yn Cwis Dim Clem. Roedd hi’n braf gweld y tîm yn wên o glust i glust prynhawn ‘ma yn rhannu’r profiad gyda gweddill y dosbarth. Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor fflat i’r plant felly mae’n braf gweld y ”buzz” na’n ôl.”

Dywed Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Maldwyn; 

“Dyma’r cyntaf i ni gynnal y cwis ym Maldwyn. Roedd pob un o’r 14 ysgol Gymraeg neu Ffrwd Gymraeg yn y sir wedi cymryd rhan, 307 o ddisgyblion i gyd, am y tro cyntaf erioed eleni. Roedd hi’n braf gweld pawb wedi gwirioni a dydyn nhw methu aros tan blwyddyn nesaf!”

Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi mewn sesiwn ar lein arbennig i ddisgyblion yr 17 ysgol gyda chyflwynydd ‘Stwnsh Sadwrn’ S4C, Owain Williams.

Bwriad cynnal Cwis Dim Clem yw rhoi’r cyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog y tu allan i’r gwersi.

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru; 

“Ry’n ni’n falch iawn o fedru cynnal Cwis Dim Clem yn genedlaethol am y tro cyntaf eleni. Mae’n gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.”

Yr ysgolion yn y rownd derfynol yw: 

  • Ysgol Gymraeg Bro Ogwr 
  • Ysgol Brynconin, Llandissilio 
  • Ysgol Cerrigydrudion 
  • Ysgol Croes Atti, Y Fflint a Shotton 
  • Ysgol Cwmbran 
  • Ysgol Griffith Jones, San Clêr 
  • Ysgol Gwaun Cynfi, Deiniolen 
  • Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant 
  • Ysgol Llechryd 
  • Ysgol Morswyn, Caergybi 
  • Ysgol Pant Pastynog 
  • Ysgol Pen y Garth, Penarth 
  • Ysgol Pencae, Caerdydd 
  • Ysgol Pontardawe 
  • Ysgol Rhyd y Grug, Aberfan 
  • Ysgol Teilo Sant, Llandeilo 
  • Ysgol Y Fro, Llangyndeyrn 

Author