Mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hannog i sefyll ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru.
Mae wythnos ar ôl i ymgeiswyr posibl i wneud cais.
Mae’r enwebiadau’n cau am 23:59 ddydd Llun 30 Medi, gyda’’r pleidleisio yn digwydd ar-lein o 4 Tachwedd.
Mae Elin Jones AS, Llywydd y Senedd yn dweud y gallai fod yn gyfle unwaith mewn oes: “Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle ystyrlon i bobl ifanc 11-17 oed fod yn rhan o ddemocratiaeth yng Nghymru.
“Rydym yn edrych am 60 o bobl ifanc i fod y rhai nesaf i ddod â’u hegni a’u syniadau i’r arena bwysig hon. Bydd gennych chi gyfle unigryw i gynrychioli barn eich cyfoedion i’r gwleidyddion sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig.”
Mae angen ymgeiswyr yn arbennig yn etholaeth Aberafan lle mae llai o enwebiadau nag mewn mannau eraill.
Ar ôl iddynt gael eu hethol, bydd aelodau newydd yn cael yr holl hyfforddiant a sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Mae’r ffurflen gais a’r holl wybodaeth berthnasol ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru: https://seneddieuenctid.senedd.cymru/cymryd-rhan/dod-yn-aelod-o-senedd-ieuenctid-cymru/
Bydd sesiwn am ddim i ateb cwestiynau a helpu ymgeiswyr posibl yn cael ei chynnal ar-lein am 18:00 ddydd Mawrth, 24 Medi – defnyddiwch yr un linc i gadw lle.