Home » Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at ei ddewis o lefydd gorau ar gyfer taith gerdded hydrefol
Cymraeg

Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at ei ddewis o lefydd gorau ar gyfer taith gerdded hydrefol

Wrth i wyliau hanner tymor mis Hydref nesáu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dewis pump o’r coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur y mae’n eu rheoli ledled Cymru lle gall pobl o bob oed a gallu fwynhau taith gerdded yn llawn lliwiau tymhorol yr hydref hwn.

Mae’r teithiau cerdded yn cynnwys llwybrau byrrach sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc a llwybr hygyrch sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae gan bob taith gerdded arwyddbyst a graddau i roi syniad o’r lefelau ffitrwydd sydd eu hangen, ac mae panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Meddai Mary Galliers, Ymgynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Hamdden ar yr Ystad a Hyrwyddo Mynediad:

“Mae’r awyr yn ffres ac mae’r lliwiau’n llachar yn yr hydref, sy’n golygu mai dyma’r adeg berffaith o’r flwyddyn i fwynhau golygfeydd syfrdanol a thirweddau godidog.

“Mae’r hydref hefyd yn amser gwych ar gyfer ymweld â safleoedd sydd wedi bod yn brysurach yn ystod misoedd yr haf.

“Mynd am dro ar droed yw’r ffordd orau o werthfawrogi’r amrywiaeth o liwiau tymhorol ond nid dim ond er mwynhad y mae taith gerdded hydrefol; mae pobl sy’n egnïol ac yn mwynhau’r awyr agored yn fwy tebygol o gael bywydau hirach, iachach a hapusach.”

online casinos UK

Dyma’r pum taith gerdded hydrefol rydyn ni wedi’u dewis:

  • Darganfyddwch lyn llonydd prydferth ym Mharc Coedwig Gwydir wedi’i amgylchynu â choed sy’n fyrdd o liwiau’r hydref ar Daith Gerdded Llyn Elsi o Fetws-y-coed.
  • Heriwch y plant i geisio dod o hyd i’r cerfluniau anifeiliaid sy’n cuddio ymysg lliwiau’r hydref ar y Llwybr Darganfod Anifeiliaid yng Nghoedwig Dyfi ger Machynlleth.
  • Edmygwch amrywiaeth ryfeddol lliwiau brown, aur a gwin y gyforgors o’n llwybr pren hygyrch yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron.
  • Mwynhewch y lliwiau aur a choch cyfoethog a chrensian y dail dan draed ar daith gerdded gylchol drwy Goed Cilgwyn ger Llanymddyfri.
  • Rhyfeddwch at y golygfeydd dramatig o geunant Gwy drwy’r coed lliwgar o’r golygfannau ar hyd llwybr Rhyfeddodau Whitestone yng Nghoedwig Whitestone ger Cas-gwent.

Cynlluniwch ymlaen llaw drwy edrych ar y dudalen we ar gyfer y coetir neu’r warchodfa cyn i chi gychwyn, a phan fyddwch yn cyrraedd, cofiwch edrych am unrhyw arwyddion a chanllawiau ar y safle i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad a chadwch at lwybrau, gadewch giatiau fel yr oedden nhw, cadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw ci ac ewch â’ch sbwriel adref.

I gael rhagor o wybodaeth am y pum taith gerdded hyn neu wybodaeth am ymweld â choetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol eraill a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ewch i: www.cyfoethnaturiol.cymru/llwybrau-cerdded-yr-hydref

Author