Home » Cyfrifon ariannol cynghorau a chyrff heddluoedd Cymru
Cymraeg

Cyfrifon ariannol cynghorau a chyrff heddluoedd Cymru

Cyfrifon ariannolTRYDYDD ADRODDIAD blynyddol yn dangos gwelliannau ond mae pryderon mewn rhai meysydd o hyd.

Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan – a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau – yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.

Yn ei adroddiad, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn erfyn ar gyrff cyhoeddus i sicrhau bod ganddynt drefniadau rheoli ariannol effeithiol ar waith – gan y bydd yr heriau yn parhau yn ystod y cyfnod ymestynnol hwn o lymder. Mae’n galw arnynt i fabwysiadu modelau cynllunio ariannol tymor canolig da sy’n gysylltiedig â chynlluniau cadarn i drawsnewid gwasanaethau, ac a gefnogir ganddynt.

Mae’r adroddiad heddiw i gyfrifon awdurdodau lleol a chyrff heddluoedd yn dod i’r casgliad fod y sector heddlu wedi ymdopi’n dda â newidiadau sylweddol i’w gyfrifoldebau o ran cyflwyno adroddiadau ariannol, a gyflwynwyd yn sgil deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym y flwyddyn ddiwethaf, sef Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Dyma’r flwyddyn gyntaf roedd yn ofynnol i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid baratoi cyfrifon ar wahân.

Canfu’r adroddiad hefyd fod angen gwneud diwygiadau i’r rhan fwyaf o gyfrifon awdurdodau lleol a heddluoedd, yn dilyn archwiliad. A’r hyn a oedd yn achosi mwy o bryder oedd y cynnydd eleni yn nifer y cyrff y bu angen diwygio eu cyfrifon ar gyfer eitemau perthnasol – materion o bwys – yn enwedig yn achos cyfrifyddu eiddo, offer a chyfarpar.

Hefyd, roedd nifer sylweddol o gynghorau (cymuned) lleol yn cael barn amodol (a allai olygu dull cyfrifyddu anghyflawn neu beidio â dilyn egwyddorion cyfrifyddu yn briodol). Yn y rhan fwyaf o’r achosion, ni chwblhawyd y ffurflenni roedd angen i gyrff archwiliedig eu darparu i ategu Cyfrifon cenedlaethol y Llywodraeth Gyfan yn brydlon. Ac, er bod datganiadau llywodraethu blynyddol yn parhau i gael eu gwella, mae lle i wella ymhellach o hyd.

online casinos UK

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

“Er bod cyrff cyhoeddus yn gwneud yn well o ran cyflwyno eu cyfrifon ar amser, a bod yr ansawdd i’w weld yn gwella ar y cyfan, mae’r hinsawdd ariannol yn ei gwneud hi’n bwysicach fyth i sefydliadau barhau i wella eu trefniadau rheoli ariannol a llywodraethu. Mae’r rhagolygon ariannol yn parhau i gyfeirio at bwysau a heriau ar gyfer y sector cyhoeddus ac, yn sgil nifer yr adroddiadau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar fethiannau o ran cyflwyno adroddiadau ariannol a llywodraethu, rhaid i sefydliadau beidio â cholli ffocws.”

Author