Mae safle penigamp mewn canol tref yn mynd I gael ei ddodi ar y farchnad gan Gyngor Sir Penfro.
Dymuna’r Cyngor gael cynigion am gyn Ysgol Gynradd Abergwaun.
Fe hoffai’r Awdurdod I archfarchnad sefydlu un o’i changhennau yn y dref arfordirol yng ngogledd y Sir.
Yn ystod y mis hwn bydd hysbysebion sy’n rhoi manylion gwerthu’r safle 2.78 hectar, yn cael eu rhoi ar ddangos.
“Mae’n safle creiddiol yng nghanol Abergwaun,” meddai’r Cynghorydd Rob Lewis, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Chynllunio.
“Mae mawr angen adfywio’r dref ac rydym ni’n credu y bydd datblygu’r safle canolog hwn yn rhoi hwb angenrheidiol iawn iddi,” meddai.
“Mae rhan o’r safle wedi’i lleoli o fewn Ardal Gadwraeth Abergwaun a’r hyn yr ydym ni’n gobeithio ei gael yw datblygiad o safon uchel, sy’n gydnaws â’i leoliad yng nghanol y dref.”
Fe gaeodd cyn Ysgol Gynradd Abergwaun ddwy flynedd yn ôl ar ôl i’r adeilad Fictoraidd gael ei ystyried yn anaddas ar gyfer addysgu disgyblion yn yr oes sydd ohoni. Fe symudodd ei disgyblion, ynghyd â phlant cyn Ysgol Fabanod y dref, i adeilad newydd sbon £6 miliwn Ysgol Glannau Gwaun, a agorodd ym mis Medi 2011.
Fe gyflwynwyd cynllun cynnar er mwyn defnyddio gwerthiant yr adeilad i ariannu’r ysgol newydd. Ond fe aeth y cynllun i’r gwellt a daeth y trafodaethau â’r datblygwyr i ben.
Yn ogystal â’r cyn ysgol mae’r safle sydd newydd ddod ar y farchnad hefyd yn cynnwys cyn lyfrgell y dref a chyn dafarn y Ship and Anchor.
Mae’r darpar brynwyr yn cael eu hysbysu bod y Cyngor yn awyddus i archfarchnad 1,500 metr sgwâr gael ei hadeiladu ar y safle – archfarchnad a fydd yn gwerthu bwyd a diod gan mwyaf.
Ar ben hynny mae’r prynwyr yn cael eu hannog i ddal sylw ar gynlluniau’r Cyngor i wella trefn ffyrdd y dref yn ogystal â sicrhau y cedwir llwybr ar gyfer ffordd gyswllt arfaethedig trwy’r safle.
Pat Davies a Myles Pepper yw cynghorwyr sir Abergwaun ac roeddent o blaid “y cyfle gwell a newydd hwn i ddarpar ddatblygwyr ymgynnig eu hunain.”
Add Comment