Home » Cyngor yn ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio
Cymraeg

Cyngor yn ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio

MAE ARCHWILIO Cymru wedi cynnal Adolygiad Dilynol o Wasanaethau Cynllunio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ac wedi dod i’r casgliad fod y cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’i holl argymhellion.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad yn dilyn adolygiad o wasanaethau cynllunio’r cyngor, ac roedd ei ganfyddiadau yn nodi materion perfformiad arwyddocaol a hirsefydlog yn y gwasanaeth cynllunio yr oedd angen mynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau’r cyngor.

Fe gafodd 17 o argymhellion eu gwneud gan Archwilio Cymru er mwyn i’r cyngor fynd i’r afael â nhw. Mae’r adroddiad wedi cadarnhau eu bod i gyd wedi eu diwallu.

Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin alw Bwrdd Ymyrraeth i ddarparu goruchwyliaeth o gynllun gweithredu 49 pwynt er mwyn ymateb i ganfyddiadau Archwilio Cymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Dros y 15 mis diwethaf, mae’r cynnydd yn erbyn y cynllun wedi’i fonitro drwy fframwaith llywodraethu’r cyngor i roi sicrwydd o gynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

Mae Archwilio Cymru wedi bod yn dilyn cynnydd y cyngor trwy gynnal cyfarfodydd dal i fyny’n rheolaidd gyda’r cyngor, adolygu dogfennau a chraffu ar gyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Maent hefyd wedi cyfweld â swyddogion allweddol y cyngor yn ystod y broses archwilio.

O fewn yr adolygiad dilynol, sydd wedi ei gyhoeddi ar ei gwefan, mae Archwilio Cymru’n dweud:

online casinos UK

“Mae’r Cyngor i’w ganmol am y camau pendant, cyflym a gymerodd mewn ymateb i ganfyddiadau ein hadroddiad yn 2021, ac am y ffordd y mae wedi ysgogi gwelliannau yn ei wasanaeth cynllunio.

“Mae’r ffordd adeiladol y derbyniodd y Cyngor ein hadroddiad a gweithredu ar yr argymhellion yn enghraifft arbennig o gadarnhaol o Gyngor yn dangos ei ymrwymiad i wella wrth ddarparu gwasanaethau.

“Mae’r Cyngor wedi dysgu gwersi o’r adolygiad y mae hefyd wedi’i roi ar waith yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â rheoli perfformiad.

“Ar y cyfan, gwelsom fod y Cyngor wedi llwyddo i fynd i’r afael â’n holl argymhellion ac wedi ymateb ar gyflymder i gyflawni gwelliannau sylweddol yn ei wasanaeth cynllunio.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

“Rwy’n falch iawn o adroddiad Archwilio Cymru sydd yn dweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi llwyddo i oresgyn heriau o fewn ein hadran gynllunio.

“Mae’r adroddiad yn rhagorol, mae’n canmol y gwaith a’r newid mewn systemau, gweithdrefnau ac arweinyddiaeth, gan gydnabod y gwelliant sylweddol sydd wedi’i gyflawni.

“Nid diffyg moeseg gwaith oedd yn gyfrifol am y materion dan sylw, gan fy mod yn gwybod o lygad y ffynnon am yr ymdrech a’r ymroddiad sy’n cael eu rhoi i mewn gan nifer o’n swyddogion. Yn hytrach y prosesau oedd ar fai ac roedd angen eu haddasu, gan nad oedd yn rhoi’r amgylchedd priodol i swyddogion gyflawni’r gwaith oedd ei angen.

“Hoffwn ddiolch i holl swyddogion y cyngor sydd wedi gweithio mor galed ers Gwanwyn 2021 i gyrraedd y nod o gwrdd â phob un o’r 17 o’r argymhellion a gafodd eu nodi yn wreiddiol gan Archwilio Cymru.

“Y cam nesaf, wrth gwrs, yw dal ati, parhau i symud ymlaen er mwyn aros ar flaen y gad fel un o’r awdurdodau cynllunio mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru. Mae gwaith pellach i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus, yn enwedig ym myd gorfodi ond rydym yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda dros 1000 o achosion gorfodi eisoes wedi’u datrys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Cliciwch yma i weld copi llawn o’r Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaethau Cynllunio ar wefan Archwilio Cymru.

Author