MAE cynilwyr undebau credyd Cymru sydd wedi bod yn rhoi pres o’r neilltu ers mis Ionawr wedi cynilo £515 y pen, ar gyfartaledd. Roedd dros 2,000 o bobl yn cynilo mewn cyfrifon Nadolig gydag undebau credyd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i helpu pobl i reoli eu harian a chynllunio ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o gofio’r sefyllfa economaidd bresennol a’r toriadau i’r system les. Mae undebau credyd, nad ydynt wedi’u sefydlu i wneud elw, yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth.
Mae Gweinidogion Cymru yn bryderus hefyd bod cwmniau benthyciadau diwrnod cyflog ar gynnydd a’i bod mor hawdd cael arian ganddynt am log uchel.
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gynyddu nifer yr Undebau Credyd i 6% o’r boblogaeth erbyn 2020. Yn gynharach eleni, rhoddodd Gweindogion Cymru £1.9 miliwn o gyllid newydd i’r undebau credyd er mwyn eu hepu i ddatblygu eu gwasanaethau ac annog rhagor o bobl i’w defnyddio.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert:
“Dengys y ffigurau hyn fod yr undebau credyd wedi pasio carreg filltir bwysig wrth inni ddynesu at gyfnod prysur y Nadolig – mae pobl wedi cynilo dros £1filiwn ar gyfer yr Ŵyl. Mae mwy a mwy o bobl yn troi at eu hundeb credyd leol fel ffordd o gynilo ac rydym yn awyddus i helpu’r sector hwn i dyfu mwy byth fel bod pobl Cymru’n cael yr opsiwn o gynilo a benthyg arian ar gyfradd log decach.
“Bydd yr arian a gynilwch yn cael ei fenthyca i bobl eraill, y bydd gennych gysylltiad â nhw. Os byddwch chithau’n benthyg arian, bydd y llog a dalwch yn mynd i’r bobl sy’n cynilo, ac nid i gyfranddeiliaid. Bydd yr arian yn aros yng Nghymru ac yn helpu eich cyd-Gymry.
“Mae llawer o bobl yn wynebu cynni ar hyn o bryd, ac mae’r benthyciadau diwrnod cyflog ar gynnydd. Rydym yn gweithio i helpu pobl i reoli eu harian yn well, yn y gobaith na fyddant byth yn gorfod troi at y fath gwmnïau. Er nad undebau credyd yw’r unig ateb i orchfygu’r benthyciadau diwrnod cyflog, maen nhw’n hollbwysig i’r o ran cynnig credyd rhad a chyngor ar reoli arian.”
Y cyfradd log fisol gan Undeb Credyd ar hyn o bryd yw 2%, sef Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) o 26.8%, ac yn aml codir llai o log na hynny. Ar y llaw arall, mae’r cwmniau benthyciadau diwrnod cyflog yn codi APR o dros 1000%.
Add Comment