Home » Cynllun tai fforddiadwy yn arloesi trwy ddarparu adeiladau carbon isel
Cymraeg

Cynllun tai fforddiadwy yn arloesi trwy ddarparu adeiladau carbon isel

Bydd cynllun i godi 24 o dai fforddiadwy ym Mhenygroes Gwynedd yn dechrau mis Mehefin fel rhan o symudiad cymdeithas dai tuag at ddyfodol carbon isel a gwyrddach.

Bydd pob un o’r tai ym mhrosiect £5.5m Grŵp Cynefin yn cael eu codi gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern ac yn cynnwys paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer (air source heat pumps) er mwyn eu gwneud yn gartrefi carbon isel sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon.

Bydd y tai ar gael i’w defnyddio yn gynnar yn 2023.

Mae’r safle gyferbyn â Chanolfan Hamdden Plas Silyn a bydd y 24 eiddo’n cael eu gosod ar rent fforddiadwy i bobl leol sydd wedi cofrestru ar Restr Tai Cyngor Gwynedd a Tai Teg.

Meddai Gwyndaf Williams, rheolwr datblygu Grŵp Cynefin sy’n gweithredu o Benygroes a Dinbych: “Rydyn ni’n angerddol am ddarparu tai fforddiadwy, yn arbennig mewn cymunedau gwledig. Felly rydym wrth ein bodd ein bod ar fin dechrau datblygu’r safle hwn. Bu llawer iawn o ddiddordeb yn y cynllun hyd yma.

“Mae’r math hwn o gynllun yn hanfodol gan eu bod yn dod â thai fforddiadwy i ardaloedd lle nad yw pobl yn medru fforddio prynu eiddo yn eu bro enedigol, ac felly’n symud oddi yno i fyw.

online casinos UK

“Y datblygiad hwn ym Mhenygroes yw un o’r prosiectau mwyaf o’i fath gan Grŵp Cynefin. Rydym yn arwain y ffordd gyda dulliau adeiladu’r dyfodol nid yn unig o fewn y gymdeithas hon ond ar draws Gogledd Cymru. Tai fel y rhain, o safon uchel ac yn defnyddio ynni’n effeithlon, fydd y disgwyliad safonol mewn blynyddoedd i ddod.

“Byddant wedi eu hinsiwleiddio’n dda ac yn cynnwys paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer a fydd yn amsugno gwres o’r awyr agored tu allan i gynhesu’r tai a darparu dŵr poeth – a thrwy hynny leihau maint y biliau ynni.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn grant arloesedd o £500,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at y gost adeiladu a fydd yn galluogi uwchraddio’r cynllun i’w wneud yn fwy effeithlon.

Bydd y datblygiad yn cynnwys eiddo dwy, tair a phedair ystafell wely ac wyth o fflatiau un llofft.

Mae gan Grŵp Cynefin brofiad o ddulliau adeiladu modern gan iddynt ddefnyddio’r dull adeiladu modiwlar ym Maes Glyndwr yng Nghynwyd ger Corwen, Sir Ddinbych, a thrwy hynny leihau nifer y siwrneiau angenrheidiol i’r safle.

Ychwanegodd Gwyndaf: “Fel ag yn achos pob un o’n prosiectau, ein nod yw defnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol lle bynnag y bod modd ynghyd â chynnig profiad gwaith gwerthfawr i brentisiaid sy’n dilyn cyrsiau yng ngholegau Gogledd Cymru

Mae Mari Tudur yn gweithio fel uwch hwylusydd tai gwledig gyda Grŵp Cynefin.  Mae hwyluswyr tai gwledig yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i ddeall beth sydd yn bwysig iddyn nhw, er enghraifft a oes tai ar gael ac a ellir eu fforddio – ynghyd ag awgrymu atebion posibl.

Meddai Mari: “Rydym yn falch dros ben bod caniatâd wedi ei roi i’r nifer o gartrefi yr oeddem am eu gweld ar y safle hwn.

“Mae galw mawr am dai yn yr ardal ac felly mae’n braf gweld cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel yn cael eu codi ar gyfer pobl leol nad ydynt eisiau symud i ffwrdd i fyw.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae datblygiad newydd Maes Dulyn yn  arwydd o newid yn y ffordd y byddwn yn datblygu ein holl gartrefi yn y dyfodol, gan helpu i wneud y mwyaf o’n cyfraniad i’r agenda werdd a chynaliadwyedd yn y dyfodol.  Mae Grŵp Cynefin wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon, darparu cartrefi cynhesach ac i helpu ein tenantiaid i leihau eu biliau ynni.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da i bobl leol, a bydd y datblygiad hwn ym Mhenygroes yn enghraifft wych o gydweithio â’r gymuned leol, cyflenwyr lleol a Chyngor Gwynedd i helpu i fynd i’r afael â phrinder cartrefi yng Ngwynedd.”

Ewch i wefan Grŵp Cynefin i ganfod mwy am gynlluniau tai y gymdeithas adeiladu: www.grwpcynefin.org

Author