Home » Data yn llywio’r achos o blaid cydweithredu rhanbarthol
Cymraeg

Data yn llywio’r achos o blaid cydweithredu rhanbarthol

MAE DATA sy’n llywio cydweithredu rhanbarthol a chenedlaethol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi. 

Mae’r crynodeb yn crynhoi nodweddion demograffig, economaidd a chymdeithasol pob un o’r ardaloedd ôl troed rhanbarthol, gan gynnwys proffil oedran, dwysedd poblogaeth, cyflogaeth, disgwyliad oes a lefelau trosedd a gofnodir. Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC: “Mae diwygio’r gwasanaethau cymdeithasol wrth wraidd y weledigaeth a amlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru decach a mwy llewyrchus. “Bydd yr adroddiad hwn yn helpu’r cyhoedd i graffu ar berfformiad eu gwasanaethau cyhoeddus lleol ac mae’n ddefnyddiol wrth alinio ffiniau’r Awdurdodau Lleol a ffiniau rhanbarthol â gwasanaethau cyhoeddus eraill megis iechyd a phlismona. “Mae’n tanlinellu pwysigrwydd parhau i weithio i wella gwasanaethau cyhoeddus tra bo ein hymateb i adroddiad Comisiwn Williams yn cael ei lunio.”

Author