Home » Dathlu 100 mlynedd o Urdd Gobaith Cymru ar Ddiwrnod Cariad @ Urdd
Cymraeg

Dathlu 100 mlynedd o Urdd Gobaith Cymru ar Ddiwrnod Cariad @ Urdd

Dathliadau 25 Ionawr i gynnwys ymgais yr Urdd a’r genedl gyfan i dorri record byd

Ar Ddiwrnod Cariad @ Urdd (25 Ionawr 2022) bydd dathliadau canmlwyddiant mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru yn dechrau’n swyddogol gyda Pharti Pen-blwydd rhithiol mwyaf yn hanes yr Urdd ac ymgais i dorri record byd.

Am 10:30 o’r gloch cynhelir parti rhithiol dros Zoom yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Mistar Urdd a Mei Gwynedd, a darlledir y cyfan yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Yna bydd yr Urdd a’r genedl gyfan yn ymgeisio i dorri record byd Guinness drwy uwchlwytho gymaint â phosib o recordiadau fideo o unigolion, grwpiau a theuluoedd yn canu fersiwn fer o’r gân eiconig, Hei Mistar Urdd, i Twitter a Facebook rhwng 10:45 a 11:45 o’r gloch. Mae dros 80,000 wedi cofrestru i gymryd rhan yn y dathliadau ar y diwrnod, o ysgolion i elusennau a grwpiau cymunedol.

Ym mis Ionawr 1922, mewn erthygl yng nghylchgrawn Cymru’r Plant, gofynnodd Syr Ifan ab Owen Edwards (sylfaenydd yr Urdd) i blant Cymru i ymuno â mudiad newydd o’r enw ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’, gan nad oedd yn teimlo fod digon o gyfleoedd i blant Cymru ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae ein dyled ni fel cenedl yn enfawr i weledigaeth Syr Ifan. Mae’r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn ôl. Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori’r Urdd ac edrych tua’r dyfodol.

“Mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd unigryw i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc Cymru fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, o chwaraeon i’r celfyddydau, profiadau preswyl, dyngarol, awyr agored, gwirfoddol, hyfforddiant a rhyngwladol. Dyma’r unig fudiad sy’n cynnig amrywiaeth mor eang i’n pobl ifanc ac felly haedda ei le fel prif fudiad ieuenctid Cymru. A hithau’n Ddiwrnod Santes Dwynwen, galwaf ar bawb yng Nghymru (a thu hwnt!) i ddangos eich cariad at yr Urdd drwy ymuno yn nathliadau’r canmlwyddiant, a’n helpu i dorri record byd.”

online casinos UK

Meddai Pennaeth Cynhyrchu Digwyddiadau Byd-eang Guinness World Records™, Alan Pixley:

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru ar yr hyn sy’n addo i fod yn ddathliad canmlwyddiant cyffrous iawn. Nid camp hawdd yw sicrhau teitlau Guinness World Records™ a dymunwn bob lwc i’r holl gyfranogwyr ynghyd ag Urdd Gobaith Cymru gyda’u hymdrechion.

“Mae ein beirniaid yn edrych ymlaen at weld y fideos ac yn gobeithio medru coroni Urdd Gobaith Cymru fel deiliaid record byd am y nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân a uwchlwythwyd i Facebook mewn awr, a’r fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân a uwchlwythwyd i Twitter mewn awr.”

Gydag BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn darlledu’r dathliadau ar y 25ain o Ionawr, meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: “Mae BBC Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau 100 mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru. Mae gan yr Urdd a BBC Cymru bartneriaeth arbennig sy’n ymestyn dros ddegawdau, gyda’r BBC yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd ers y saithdegau.

“Mae’r mudiad wedi chwarae rhan mor bwysig yn darparu cyfleoedd i blant Cymru, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae gen i atgofion melys iawn o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ac o benwythnosau llawn hwyl yn ymweld â Llangrannog a Glan-llyn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wrando ar y dathliadau ar Radio Cymru a Radio Wales ar 25 Ionawr.”

Hefyd ar 25 Ionawr, bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn agor arddangosfa newydd i nodi canmlwyddiant y mudiad, ac mae adeiladau eiconig megis Senedd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i chwifio baner yr Urdd neu oleuo’n goch, gwyn a gwyrdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Author