Home » Dathlu  Dydd Gŵyl Ddewi â Bwydydd Nodedig o Gymru
Cymraeg Farming

Dathlu  Dydd Gŵyl Ddewi â Bwydydd Nodedig o Gymru

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cytuno i noddi Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang er mwyn dathlu busnes, bwyd a diwylliant Cymru ledled y byd.

Fel arfer bydd yr ŵyl i ddathlu goreuon Cymru yn digwydd mewn 150 o leoliadau mewn 20 o wledydd o gwmpas Dydd Gŵyl Ddewi. Eleni. fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws yn golygu y bydd rhaid canolbwyntio ar weithgareddau rhithiol rhwng 20 Chwefror a 7 Mawrth.

Ymunodd HCC ag Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-Eang am y tro cyntaf y llynedd, a bydd yn cymryd rhan eleni eto er mwyn hyrwyddo brandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn Llundain a sawl marchnad allweddol arall.

Eleni, bydd y corff cig coch yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar-lein ynghylch dyfodol y fasnach ryngwladol a sut mae cig oen a chig eidion wedi’u cynhyrchu yng Nghymru yn rhagori oherwydd eu hamgylchedd ragorol, fel y dangoswyd yn y ddogfen ymchwil ‘Y Ffordd Gymreig’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan HCC.

Hefyd, rhoddir sylw i’r cynhyrchion Cymreig eiconig hyn ar-lein fel rhan o ‘Bythefnos Fwyd Cymru’, a fydd eleni, am y tro cyntaf, yn rhan o ‘Wythnos Cymru Fyd-Eang’.

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu HCC, Owen Roberts: “Er y byddem wrth gwrs wedi hoffi bod yn rhan o ddigwyddiadau sydd â phobl yn y fan a’r lle, rydym yn falch fod Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-Eang yn cael eu cynnal. Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein er mwyn trafod sut hoffem weld Cymru yn arwain y byd o ran ffermio da byw cynaliadwy.”

Dywedodd cadeirydd Wythnos Cymru yn Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-Eang, Dan Langford: “Mae’n wych gallu cydweithio fel hyn unwaith eto â HCC. Pwrpas Wythnos Cymru yw rhoi cyfle i hyrwyddo cynnyrch a busnesau Cymru, ein treftadaeth, diwylliant, celfyddydau, treftadaeth a llawer mwy – tynnu sylw at y gorau oll o Gymru i weddill y byd adeg Dydd Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

“Mae gan gig o Gymru enw da ledled y byd, ac felly mae’n bwysig ei bod yn gallu cefnogi unrhyw ymdrech i’w hyrwyddo ym mhob ffordd bosib. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda HCC mewn cysylltiad â hyn, am y bumed flwyddyn yn olynol. Mae Wythnos Cymru yn mynd o nerth i nerth ac rydym yn mawr obeithio y gall ein holl bartneriaid – a Chymru yn gyffredinol – elwa fwyfwy o ddathliadau Wythnos Cymru a’r holl sylw.”

Gall pobl weld yr hyn sy’n digwydd i ddathlu Wythnos Cymru ar-lein wrth fynd i www.walesweek.london, www.walesweek.world a www.walesfoodfortnight.com.

Author