SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU yn lansio astudiaeth bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd ac yn gofyn am farn y cyhoedd.
Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy’n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu’r gwasanaethau eang sy’n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys:
• asesu ansawdd y cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt;
• ystyried diogelwch y lleoedd y mae pobl yn gweithio ynddynt;
• archwilio hylendid y mannau lle mae pobl yn bwyta a lle caiff bwyd ei gynhyrchu;
• lleihau achosion ac effeithiau llygredd aer;
• ymdrin â phroblemau a achosir gan swn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
• rheoli plâu; a
• rheoli cwn a’u perchnogion.
Mae tîm yr adolygiad am glywed gan bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn, er mwyn darganfod sut brofiad a gawsant; pa mor effeithiol yr oedd eu cyngor wrth ymdrin â’u problem; ac i ba raddau y maent yn ymwybodol o newidiadau i’r gwasanaethau hyn, a achosir gan ostyngiadau yn yr arian sydd gan gynghorau i’w wario ar wasanaethau.
Gallwch gwblhau’r arolwg byr, dienw drwy ymweld â’n gwefan myhealthytown.wao.gov.uk lle ceir dolen gyswllt ar gyfer yr arolwg yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth bellach.
Bydd yr holl safbwyntiau a gofnodir yn helpu tîm yr astudiaeth i nodi problemau penodol y gellir ymchwilio iddynt ymhellach yn rhan o waith y tîm. Caiff y canfyddiadau eu cyhoeddi mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y flwyddyn nesaf.Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
“Er mwyn deall yn wirioneddol beth yw sefyllfa iechyd yr amgylchedd yng Nghymru, mae angen i ni glywed gan y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny. Rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn cwblhau’r arolwg byr hwn, er mwyn i ni allu cael gwybodaeth eang o bob cwr o Gymru. Bydd hynny’n ein helpu i ddarparu asesiad gonest o ba mor dda y mae cynghorau’n gweithredu â llai o arian, a beth y mae angen ei wella – er mwyn gwasanaethu ein cymunedau’n well.”
Add Comment