Anrhydeddwyd dau aelod newydd i’r Orsedd eleni o Sir Benfro am eu gwasanaeth cymunedol – sef Elvira Harries, Casblaidd, (Gwisg Las) a Cerwyn Davies, Mynachlog-ddu, (Gwisg Werdd). Eu henwau yn yr Orsedd fydd ‘Elvira Casblaidd’ a ‘Cerwyn’. Yn y llun gwelir Hefin Glandy, Eirian Cleddau ac Alun Sarn yn eu llongyfarch.