Home » Fersiwn newydd iaith Gymraeg o gwrs poblogaidd MSE ‘Academoney’ gyda’r Brifysgol Agored
Cymraeg

Fersiwn newydd iaith Gymraeg o gwrs poblogaidd MSE ‘Academoney’ gyda’r Brifysgol Agored

MAE un o gyrsiau mwyaf poblogaidd, rhad ac am ddim y Brifysgol Agored yn mynd i fod yn ddwyieithog, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar siaradwyr Cymraeg i feistroli eu harian, yn eu dewis iaith, boed hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’r cwrs – Academi Arian – wedi cael ei gyfieithu’n ddiweddar o MSE’s Academy of Money, prosiect addysg ariannol uchelgeisiol a lansiwyd yn Saesneg y llynedd, pan ymunodd gwefan fwyaf y DU i ddefnyddwyr, MoneySavingExpert.com (MSE) â’r sefydliad dysgu o bell, blaenllaw.

Yn cael ei gynnal ar lwyfan OpenLearn y Brifysgol Agored, dyma’r cwrs academaidd am ddim, newydd, mwyaf poblogaidd y darparwr addysg y llynedd, gyda mwy na 37,000 yn cofrestru.

Mae’r cwrs yn cynnwys chwe sesiwn dwy awr o astudio yn ymdrin â phob agwedd ar gyllid personol:

  1. Gwneud penderfyniadau gwario da: Byddwch yn archwilio pa bwysau ymddygiadol a marchnata sy’n dylanwadu ar benderfyniadau prynu ac yn edrych ar fodel penderfynu pedwar cam syml. Mae datblygu eich agwedd at reoli arian yn sail i’r sesiwn hon, a gweddill y cwrs. 
  2. Cyllidebu a threthiant: Mae’r sesiwn hon yn archwilio sut mae cyfrifo eich incwm net. Byddwch yn archwilio patrymau gwario, sut mae yswiriant gwladol a threth yn gweithio, a sut mae cynllunio i adeiladu cyllideb lwyddiannus.
  3. Benthyca arian: Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut mae gwahanol fathau o ddyled yn gweithio, y gwahaniaethau rhyngddynt a’r peryglon. Mae’n archwilio’r cysyniad ‘dyled ddrwg, dyled dda’ ac erbyn y diwedd, yn eich addysgu ynglŷn â sut mae benthyca’n synhwyrol.
  4. Deall morgeisi: Mae cynhyrchion morgais yn gymhleth. Mae’r sesiwn hon yn rhoi sylfaen i chi o ran sut maent yn gweithio, cyfraddau llog, ad-daliadau a chosbau posibl. Mae hefyd yn archwilio morgeisi o safbwynt y darparwr benthyciadau i egluro sut y gallai eich contract ffôn symudol bennu faint y gallwch ei fenthyca.
  5. Cynilo a buddsoddi: Mae’r sesiwn hon yn egluro’r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi, yn ogystal â sut mae deall gwahanol fathau o fecanweithiau cynilo a hanfodion buddsoddiadau megis cyfranddaliadau, bondiau a nwyddau, a’r risgiau cysylltiedig.
  6. Cynllunio ar gyfer ymddeoliad: Yn y sesiwn olaf hon, byddwch yn deall sut mae pensiynau gwladol, cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol yn gweithio a’r gwahaniaethau rhyngddynt – mae wedi’i dylunio i’r rheiny sydd ar fin ymddeol a’r rheiny sydd ymhell o ymddeol.

Fel gyda’r cwrs iaith Saesneg, mae Academi Arian yn hollol hyblyg, gan ganiatáu i fyfyrwyr astudio ar eu cyflymder eu hunain, ac efallai dewis un pwnc i’w astudio hyd yn oed. Mae ar gael i unrhyw un sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am gyllid personol er eu budd a’u gallu ariannol eu hunain, neu, ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn diwydiannau sy’n helpu defnyddwyr, gall ddarparu sylfaen academaidd i gefnogi eu gwaith.

Yn ogystal â datganiad o gyfranogiad y gellir ei lawrlwytho am ddim, bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill bathodyn digidol am ddim y Brifysgol Agored os ydynt yn cwblhau pob un o’r chwe sesiwn. Dyma ffordd o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a’ch ymrwymiad i’ch gyrfa gyda datblygiad proffesiynol parhaus.

Cyfieithwyd y cwrs fel rhan o’r Casgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl ar gyfer OpenLearn yng Nghymru; casgliad am ddim o adnoddau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Darparwyd y casgliad gan y Brifysgol Agored yng Nghrymu, mewn partneriaeth â Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ac Addysg Oedolion Cymru.

online casinos UK

Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com, sydd hefyd wedi cyd-ariannu gwerslyfr addysg ariannol sy’n cydweddu â’r cwricwlwm yng Nghymru (1): “Mae ‘Academoney’ gan MSE eisoes yn un o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd sydd ar gael am ddim – prawf o’r pwyslais yr ydym yn ei roi ar addysg ariannol. Mae’r addysg honno’n hollbwysig, bron fel math o hunanamddiffyniad ariannol. Felly rwy’n falch ac yn ddiolchgar i’r Brifysgol Agored am ein bod ni nawr yn gallu cymhwyso pobl, am ddim, yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

“Mae cwmnïau’n gwario biliynau ar hysbysebu, marchnata ac addysgu staff i werthu, ac eto nid ydym ni fel defnyddwyr yn cael unrhyw hyfforddiant fel prynwyr. Pwrpas Academi Arian yw i wneud yn iawn am yr addysg ariannol wael a gafodd llawer o oedolion, os o gwbl, yn yr ysgol. Ac er bod y cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer eich gwybodaeth ariannol personol, i lawer o bobl, mae e hefyd yn ffordd wych o ddangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol.

“Mae’r adborth cadarnhaol a gawsom gan y rhai sydd eisoes wedi cwblhau’r cwrs yn anhygoel, a nawr rwy’n gobeithio cael adborth tebyg yn Gymraeg, wrth i lawer o bobl yn cymryd cam pwysig tuag at lythrennedd ariannol. Er mawr ofid imi, nid oes gen i’r sgiliau Cymraeg i greu enw cyfatebol i ‘Academoney’ – ond rydyn ni’n agored i awgrymiadau.”

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru: “Mae Academi Arian yn foment pwysig arall i ni yn y Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd cael y cwrs ar gael yn Gymraeg yn gwneud y cynnwys yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr yng Nghymru, ac yn helpu sefydliadau eraill i hyfforddi eu staff a’r bobl maent yn gweithio â nhw – yn Gymraeg a Saesneg. Mae cefnogi pobl i gael trefn ar eu harian yn fwy pwysig nag erioed nawr, a gall fod yn rhan allweddol o adferiad economaidd Cymru ar ôl y coronafeirws.

“Mae dysgu am ddim yn rhan hanfodol o genhadaeth y Brifysgol Agored. Yng Nghymru, bu i ni lasio casgliad dwyieithog o adnoddau llesiant ac iechyd meddwl i fyfyrwyr ar OpenLearn yn ddiweddar, a’r llynedd buom yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i lunio cyfres o gyrsiau am ddim i weithwyr ar ffyrlo i’w helpu i ailsgilio. P’un a ydych eisiau dysgu mwy amdanoch eich hun, gwella eich rhagolygon gyrfa neu ddeall cyllid ariannol, nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu.”

Mae Academi Arian bellach yn fyw ar OpenLearn, ac mae’n rhan o’i Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl. Mae’r cwrs iaith Saesneg hefyd ar gael yn y fersiwn Saesneg o’r casgliad.

Author