Home » Ffordd wahanol o ddysgu Cymraeg
Cymraeg

Ffordd wahanol o ddysgu Cymraeg

welsh for adultsOS DYCH CHI wedi bod yn ystyried dysgu Cymraeg ond ddim yn siŵr os oes digon o amser gyda chi i fynychu dosbarth mwy nag unwaith yr wythnos falle taw’r Cwrs Combi yw’r cwrs i chi. Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.

Fel mae’r teitl yn awgrymu mae’r cwrs Combi yn gyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu’n annibynnol – un wers 3 awr yr wythnos yn y dosbarth a thua 3 awr o astudio gartre sy’n cynnwys dysgu geirfa a phatrymau newydd, gwrando ar draciau sain a defnyddio gemau rhyngweithiol.

Bydd cyrsiau Combi yn dechrau ar ddechrau mis Chwefror yn Hwlffordd ac Arberth. Am ragor o fanylion am y Cwrs Combi a chyrsiau eraill cysylltwch â Chanolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru ar 01792 602070 neu [email protected]

Mae cyrsiau eraill ar gael i rai sydd eisoes yn dysgu Cymraeg ac i siaradwyr Cymraeg ar wahanol lefelau.

Author