Home » Galw am aelodau newydd banel iaith
Cymraeg

Galw am aelodau newydd banel iaith

Carwyn Jones: angen i’r aelodau panel newydd i gynghori Comisiynydd y Gymraeg
Carwyn Jones: angen i’r aelodau panel newydd i gynghori Comisiynydd y Gymraeg
Carwyn Jones: angen i’r aelodau panel newydd i gynghori Comisiynydd
y Gymraeg

MAE CARWYN JONES, Prif Weinidog Cymru, yn annog pobl i wneud cais i fod yn aelodau o banel cynghori i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg yn ei gwaith hanfodol i hybu’r iaith. Bydd yr aelodau’n rhan o Banel Cynghori’r Comisynydd, Meri Huws, am gyfnod o dair blynedd, gan ddarparu cymorth a chyngor iddi a bod yn ffrind beirniadol pan fydd angen. Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r panel helpu’r Comisiynydd i gyflwyno’r system newydd o safonau iaith, a fydd yn disodli’r system bresennol o gynlluniau iaith Gymraeg.

Byddant hefyd yn ystyried dogfennau penodol a gynhyrchir gan y Comisiynydd ac yn rhoi sylwadau iddi lle bo’n briodol. Ni fydd aelodau’r panel yn ymwneud â gweithgareddau dyddiol y Comisiynydd, ond byddant yn ffynhonnell o gyngor ac yn fodd iddi drafod materion ar lefel strategol. Mae Llywodraeth Cymru’n annog ystod eang ac amrywiol o ymgeiswyr i wneud cais. Nid yw’n hanfodol bod pob aelod o’r panel yn siarad Cymraeg. Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae gan y Comisiynydd y Gymraeg rôl bwysig i’w chwarae o ran hybu hawliau unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Mae gwaith y Comisiynydd yn effeithio’n uniongyrchol ar siaradwyr Cymraeg a’u gallu i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd – sy’n rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflawni. Pwrpas y Panel Cynghori yw darparu cyngor a chymorth gwerthfawr i’r Comisiynydd gyda’i gwaith. Mae’n bwysig nodi nad oes raid i chi fod yn siaradwr Cymraeg i fod yn aelod o’r panel. Rydym am weld pobl ag amrywiaeth o sgiliau a galluoedd. Felly, rwy’n annog unrhyw un sydd â’r profiad perthnasol a’r arbenigedd cywir i wneud cais.” I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, ewch i benodiadau cyhoeddus, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost [email protected] neu ffoniwch 029 2082 5454. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 7 Ionawr 2015.

Author