Home » Grant i sefydlu Endid Cenedlaethol
Cymraeg

Grant i sefydlu Endid Cenedlaethol

endidMAE SEFYDLIADAU sydd â diddordeb mewn chwarae rhan Endid Cenedlaethol newydd ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion yn cael eu hannog i ymgeisio am grant 7 mlynedd i sefydlu Endid Cenedlaethol, a fydd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol Cymraeg i Oedolion ar lefel genedlaethol, oedd un o brif argymhellion yr Adolygiad o Gymraeg i Oedolion. 

Cyhoeddodd y Grŵp Adolygu ei adroddiad ‘Codi Golygon: Adolygiad o Gymraeg i Oedolion’ ym mis Gorffennaf 2013, a derbyniodd y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau y rhan fwyaf o’r argymhellion yn llawn. Bydd cyfrifoldebau’r Endid Cenedlaethol newydd yn cynnwys:

• Bod yn sefydliad amlwg sy’n pennu’r cyfeiriad strategol a chenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion;

• Rhoi arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion;

• Codi safonau o safbwynt addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion;

• Datblygu cwricwlwm cenedlaethol o’r radd flaenaf sy’n briodol ac yn ennyn diddordeb disgyblion ynghyd â chreu adnoddau sy’n addas ar gyfer pob mathau o ddysgwyr.

Y Prif Weinidog Carwyn Jones dywedodd: “Rydym wedi ymrwymo i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, gan roi cyfle i bobl ddysgu Cymraeg ac annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Mae gan y rhaglen Cymraeg i Oedolion swyddogaeth hollbwysig o safbwynt cynyddu nifer y bobl a all siarad a defnyddio’r iaith. “Cafodd argymhellion yr adolygiad diweddar o Gymraeg i Oedolion eu derbyn a bydd sefydlu’r Endid Cenedlaethol yn garreg filltir hollbwysig yn y broses hon.

Bydd yr Endid Cenedlaethol yn pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion hyd 2022 ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r grant cychwynnol hwn ar gyfer ei sefydlu.” Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Dylai pawb, beth bynnag y bo eu hoedran neu ble bynnag y maent yn byw, gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfoethogi eu profiad o fyw mewn gwlad ddwyieithog.

“Mae datblygu’r Endid Cenedlaethol a’r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn gamau pwysig tuag at gyflawni’r nod hwn ac mae’n tystio i’n hymrwymiad o safbwynt creu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg.” Bydd oddeutu £780,000 ar gael i’r Endid Cenedlaethol newydd rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Gorffennaf 2016. Gall sefydliadau gyflwyno ceisiadau am y grant hyd 25 Chwefror 2015.

Author