Home » Gwefan Fap-tastig newydd y Llwybrau Cenedlaethol
Cymraeg

Gwefan Fap-tastig newydd y Llwybrau Cenedlaethol

Fap-tastigHEDDIW, (Llun 13 Ionawr 2014) bydd gwefan newydd y Llwybrau Cenedlaethol yn cael ei lansio’n swyddogol – www.nationaltrail.co.uk

Mae yna dros 15 o Lwybrau Cenedlaethol yn cynnig mwy na 2,500 o’r teithiau cerdded, merlota a beicio gorau yng Nghymru a Lloegr. Mae tri o’r Llwybrau hyn yng Nghymru, Ffordd Glyndŵr, Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Penfro.

Mae’r wefan newydd wedi’i datblygu gan Walk Unlimited ac mae’n gynnyrch partneriaeth arloesol rhyngddyn nhw, Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England. Mae’r safle’n defnyddio mapiau o ansawdd da, diolch i gefnogaeth gan yr Arolwg Ordnans, a fydd yn dangos y Llwybrau’n fanwl iawn yn ogystal â’r atyniadau a’r adnoddau gerllaw.

Teithiau cerdded dydd, rhaglenni a syniadau ar gyfer gweithgareddau megis llwybrau geo-chaching, mae pob un yn hawdd i’w llawr lwytho i helpu teuluoedd ac ymwelwyr i drefnu eu dyddiau allan o gwmpas y Llwybrau.

Meddai Anne Clark, Rheolwr Gyfarwyddwr Walk Unlimited: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfrifoldeb o hyrwyddo’r Llwybrau Cenedlaethol. Mae’r Llwybrau Cenedlaethol yn rhedeg drwy dirweddau syfrdanol ac amrywiol ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i’w mwynhau. Dim ond dechrau yw’r wefan newydd ar ein gwaith o godi ymwybyddiaeth o’r Llwybrau rhyfeddol hyn.”

Mae’r nodweddion newydd rhyngweithiol yn golygu y bydd busnesau, am y tro cyntaf, yn gallu uwch lwytho’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu i ymwelwyr. Gall hyn fod yn unrhyw beth o lety i siopau offer awyr agored, tafarnau a chaffis. Gall defnyddwyr y llwybrau a thrigolion yr ardal hefyd ychwanegu cynnwys megis digwyddiadau, lluniau ac argymhellion sy’n dangos barn y trigolion ynghylch eu hoff leoedd bwyta neu eu golygfeydd ac atyniadau mwyaf cofiadwy. Gellir hyd yn oed defnyddio’r safle i adrodd ar unrhyw fater ‘fflach newyddion’ perthnasol – sy’n gwneud y wefan yn adnodd amserol yn ogystal â defnyddiol i baratoi ar gyfer eich ymweliad â Llwybr. Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae cerdded yn hynod boblogaidd yma yng Nghymru. Mae pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr yn mwynhau ein cefn gwlad hardd ac amrywiol – ac yn dod â hwb i’w groesawu i’n heconomi.

“Yn ogystal â’r manteision ariannol y mae cerdded yn dod i’w ganlyn mae yna hefyd lawer iawn o fanteision iechyd. Fe wyddom ni eisoes fod *34% o ymwelwyr â’r Llwybrau Cenedlaethol yn cael eu hysgogi gan y cyfle i ymarfer corff er lles eu hiechyd. Bydd y wefan yn declyn hynod o ddefnyddiol i bawb sydd eisiau mynd allan a mwynhau ein hamgylchedd ardderchog”.

Meddai John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru:

“Dylai’r datblygiad hwn alluogi busnesau i elwa hyd yn oed yn rhagor ar y Llwybrau Cenedlaethol sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn ogystal â gwella profiadau ymwelwyr.

online casinos UK

“Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi rhoi hwb sylweddol i economi Cymru ac i fusnesau lleol ers ei agor. Mae’n manteisio i’r eithaf ar gefn gwlad Cymru a’i harfordir fel tynfa ffantastig i ymwelwyr. Mae’n bwysig ein bod yn dal i fuddsoddi mewn adnoddau a gwybodaeth ynghylch y llwybrau fel eu bod yn gwneud eu gwaith o roi profiadau gwerth chweil i bobl.

Dylai’r rhai sydd â diddordeb yn y llwybrau a’u datblygiad ddilyn cyfrifon Trydar (@NationalTrails) a Gweplyfr (thenationaltrails).

Diwedd

Gwybodaeth i golygyddion

Swyddfa’r wasg: 029 2046 4227 / [email protected] (24awr)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Ei ddiben yw i sicrhau cynnal, gwella a defnyddio adnoddau naturiol Cymru yn gynaladwy, heddiw ac yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gelwid Walk Unlimited o’r blaen yn Walk England. Mae’n fenter gymdeithasol a sefydlwyd yn benodol ar gyfer annog rhagor o gerdded.

Yn ddiweddar, daeth Walk Unlimited, y fenter gymdeithasol, yn bartner gyda Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau a sefydliadau lleol i hyrwyddo Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Bydd y bartneriaeth arloesol yn sicrhau y bydd y wefan yn ariannu’i hunan yn y dyfodol, gan arbed arian i’r trethdalwr.

Arwydd ansawdd y Llwybrau Cenedlaethol yw’r fesen. Dyma’r symbol a fydd yn cael ei ddefnyddio i farcio llwybrau’r Llwybrau Cenedlaethol hefyd.

Mae mapiau Arolwg Ordnans ar y wefan newydd yn cynnwys y rhai i raddfa 1:25,000, sy’n boblogaidd iawn gyda cherddwyr.

*Daw’r canran hwn o adroddiad ychwanegol Natural England (NE) MENE ar Lwybrau Cenedlaethol 2013.Y 15 o Lwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yw: Cleveland Way, Cotswold Way, Llwybr Glyndŵr (Cymru), Hadrian’s Wall Path, North Downs Way, Llwybr Clawdd Offa (Cymru), Peddars Way / Norfolk Coast Path, Llwybr Arfordir Sir Benfro (Cymru), Pennine Bridleway, Pennine Way, South Downs Way, South West Coast Path, Thames Path, The Ridgeway, Yorkshire Wolds Way.Yn dechnegol, aeth y safle’n fyw ym mis Tachwedd 2013. Roedd hynny’n gyfle i staff sy’n gweithio ar y Llwybrau a busnesau lleol i ddatblygu mwy o gynnwys cyn y lansiad swyddogol heddiw. Bydd y gwaith a wnaed ar y safle yn ystod y cyfnod paratoi yn golygu y bydd ymwelwyr yn cael yr wybodaeth y maen nhw ei angen i fwynhau pob un o’r 15 Llwybr Cenedlaethol yn llawn o heddiw ymlaen.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r Awdurdodau y mae’r llwybr yn rhedeg trwy eu hardaloedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyfodol tymor hir Llwybr Arfordir Cymru ac mae’n ariannu rhaglen newydd ddwy flynedd gwerth £1.15 i wella rhagor ar y llwybr yn ystod 2013 / 14.

Author