Home » Gweithiwr GIG o Ddoc Penfro wedi codi dros £1,550 mewn her noddedig
Cymraeg

Gweithiwr GIG o Ddoc Penfro wedi codi dros £1,550 mewn her noddedig

MAE gweithiwr GIG o Ddoc Penfro wedi codi dros £1,550 mewn her noddedig gyda’i gŵr Edd, ar ôl cael ei ysbrydoli gan y gefnogaeth a gafodd eu nith ifanc fel babi yn Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.

Mae Donna Reed yn gweithio yn y Tîm Cyfathrebu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac eisiau gwneud ei rhan i ddweud diolch i bawb a nyrsiodd Layla ac a gefnogodd y teulu am sawl wythnos pan gyrhaeddodd yn gynnar iawn yn 2012.

Meddai Donna, “Dim ond 3 pwys oedd hi’n bwyso pan gafodd ei geni, ond mae Layla bellach yn blentyn wyth oed hyfryd a llawn egni. Hoffem fel teulu roi rhywbeth yn ôl i’r staff a oedd yn gofalu am Layla pan oedd hi mor fach. “

Cododd Donna ac Edd dros £1,000 ar dudalen JustGiving a gwnaed rhodd o £500 gan gyflogwr Edd, Valero Energy Ltd, lle mae’n gweithio fel Gweithredwr Proses.
Diolchodd Karen Jones, Uwch Nyrs i’r cwpl am eu hymdrechion.

Meddai, “Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr yr hyn mae Donna ac Edd wedi’i wneud i’n cefnogi. Defnyddir rhoddion fel hyn i brynu eitemau i rieni a babanod er mwyn i’w harhosiad fod yn fwy cyfforddus ac i helpu i wneud yr arhosiad yn llai o straen – eitemau fel pecynnau maldod i rieni, eitemau ar gyfer ystafell aros rhieni, eitemau i gefnogi bwydo ar y fron ac eitemau i gefnogi datblygiad babanod cynamserol. Fe’u defnyddir hefyd i gefnogi hyfforddiant newydd-enedigol arbenigol i staff a phrynu offer newydd-enedigol arbenigol. “

Mae Donna ac Edd yn cynllunio cyfres o heriau corfforol trwy’r flwyddyn. Ychwanegodd Donna, “Flwyddyn yn ddiweddarach ers i mi ddechrau codi arian ar gyfer SCBU Ysbyty Glangwili, ac ar ôl i bob un ond un o fy nigwyddiadau y llynedd gael eu gohirio, penderfynais ymgymryd â her unigryw iawn i godi £100 arall i gyrraedd fy nharged.

online casinos UK

“Fe wnes i redeg her 4 x 4 x 48 y Narberth Nobbler rhwng 5-7 o Fawrth. Roedd y digwyddiad yn golygu fy mod i ac Edd yn rhedeg 4 milltir bob 4 awr am 48 awr, cyfanswm o 48 milltir dros y penwythnos. Mae hwn yn ddigwyddiad dygnwch anhygoel o galed a fydd yn profi ein stamina a’n dyfalbarhad.
Dywedodd mam Layla, Rebeca, “Gan fod Layla wedi ei geni’n gynamserol roedd yn amser pryderus iawn, fodd bynnag roeddem yn gwybod ei bod mewn dwylo diogel yn SBCU wrth iddynt ei magu i bwysau iach a gwneud popeth o fewn eu gallu i dawelu ein meddwl fel rhieni.

“Rydyn ni mor ddiolchgar am y gofal a’r gefnogaeth a roddodd staff i Layla ac i’n teulu, ac i’m chwaer ac Edd am godi arian ar gyfer yr uned.”

Mae Donna hefyd yn bwriadu cymryd rhan yn Triathlon Broad Haven, Hanner Marathon Caerdydd a Marathon Eryri yr Wyddfa, ar yr amod eu bod yn bwrw ymlaen.

Hoffai Donna ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ei ymgyrch hyd yn hyn ac mae’n annog pobl i roi os y gallant, “Bydd unrhyw swm, waeth pa mor fach, yn helpu i wneud gwahaniaeth a bydd 100% o’r arian a godir yn mynd tuag at helpu babanod fel Layla a’u teuluoedd, ”meddai.

Author