MAE STAFF a phlant Cylch Meithrin Croesgoch wedi ennill gwobr Efydd sy’n cydnabod eu hymrwymiad i Gynllun Gwên, sef rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg. Mae Tara Gover, Cydgysylltydd a Swyddog Gwelliant Iechyd y Geg yn Sir Benfro dywedodd: “Mae’n bleser cyflwyno gwobr i Gylch Meithrin Croesgoch.
“Mae Emma a’i thîm wedi sefydlu brwsio’r dannedd fel rhan o’r drefn ddyddiol ac, yn dilyn hyfforddiant staff, maen nhw’n gallu rhoi negeseuon allweddol am iechyd y geg i blant a’u teuluoedd. “Mae tystiolaeth yn dangos bod brwsio’r dannedd yn dda gan ddechrau’n gynnar mewn bywyd yn lleihau pydredd dannedd rhag datblygu yn hwyrach mewn bywyd.”
Add Comment