Home » Gwireddu breuddwydion o ganu gyda Huw Chiswell – cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr.
Cymraeg Education Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Entertainment Haverfordwest Mid Wales North Wales South Wales West Wales

Gwireddu breuddwydion o ganu gyda Huw Chiswell – cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr.

OS FYDDECH chi’n cael y cyfle i rannu llwyfan gydag unrhyw un, pwy fydden nhw? Ydi, mae Canu Gyda Fy Arwr yn ôl! Mae’r canwr Rhys Merion wedi bod yn ddigon lwcus i gael canu gyda rhai o enwau mawr y byd cerddorol, ac yn y gyfres Canu Gyda fy Arwr, mae o am roi’r un profiad i eraill.

Gyda Rhys wrth y llyw yn teithio i bob cwr o Gymru – a thu hwnt – i wireddu breuddwydion pobl i ganu gyda’u harwyr cerddorol, mae hon yn raglen llawn hwyl gyda digon o ganu, hel atgofion a lot o sypreisys!

Ac mae’r gyfres newydd yn cychwyn gyda un o’n enwau mwyaf ni yng Nghymru – Huw Chiswell.

Mae’r canwr-gyfansoddwr poblogaidd o Gwm Tawe wedi cyfansoddi rhai o anthemau mwyaf eiconig Cymru fel Y Cwm, Parti’r Ysbrydion, Dwylo Dros y Mor i enwi dim ond rhai. A dros bedair degawd, mae o wedi perfformio ar sawl llwyfan gwahanol ac wedi rhyddhau pump albwm.

Yr unigolyn cyntaf sy’n cael gwireddu breuddwyd o ganu gyda’i arwr yw Tristian, sy’n athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd. Cafodd ei enwebu gan ei ffrind a’i gyd-weithiwr, Nerys.

Tristian Lewis: Athro o Ysgol Caer Elen ym Mae Baglan gyda Huw Chiswell

Mae Tristian wedi bod yn ffan enfawr o Huw Chiswell erioed, ac mae’n brofiad swreal i’r ddau wrth iddynt gwrdd yn eu cyn-ysgol, Ysgol Ystalyfera, i ymarfer y gân boblogaidd Nos Sul a Baglan Bay.

online casinos UK

A cawn fwynhau perfformiad o’r ddeuawd yn y lleoliad perffaith – lle arall ond Bae Baglan gyda’r nos.

Mae’n rhaid teithio dipyn pellach i gwrdd a’r person nesaf sydd am ganu gyda’i arwr. Mae Sam Ebenezer, yn wreiddiol o Dalybont ger Aberystwyth, yn byw yn Llundain ac yn gweithio yn y byd theatr.

Mae Sam wedi hen arfer troedio llwyfannau Cymru, ac ar ôl mynd i Goleg Mountview yn Llundain mae o wedi mwynhau byw a gweithio yn y ddinas ers hynny, gan gynnwys rhan yng nghynhyrchiad eiconig The Mousetrap yn Theatr St.Martins.

“Mae’n rhaid i ti gael rhyw fath o resilience i weithio yn y byd theatr,” meddai Sam.

“Ti’n mynd lan am job interview pob wythnos a wedyn falle bo ti’n bwcio’r job yna ond bod o mond yn para 6 wythnos felly ni’n chwilio am jobs o hyd ac o hyd. Ac mae lot o newyddion gwael yn lle newyddion da felly mae’n rhaid i ti gael rhyw fath o gryfder i fod yn y byd.”

Ac mae’r sypreisys yn dal i ddod, wrth iddyn nhw berfformio’r clasur, Y Cwm, ar gwch ar yr afon Tafwys wrth iddi nosi.

Er fod Tristian a Sam wedi gwirioni gyda Huw Chiswell, mae’r trydydd canwr wedi gwirioni gyda Band Pres Llareggub. Mae Catrin, fel Sam, wedi enwebu ei hun i gymryd rhan yn y gyfres: “Dwi wrth fy modd yn canu,” Meddai. “A dwi wedi cyrraedd yr oed os dwi’n gweld cyfle, ddylwn i gymryd o! Ac os ydi rywun ddim yn gofyn, ‘di rywun ddim yn cael nac ‘di!”

Catrin, Huw Chiswell a Band Pres Llareggub.

Yn wreiddiol Fynytho, Abersoch, mae Catrin yn dod o deulu cerddorol. Roedd ei mam yn dysgu piano iddi yn Ysgol Botwnnog, ac roedd ei thad yn ganwr brwd ac wedi arwain band pres Y Bala.

Ar ôl dipyn o sypreis gan Rhys Meirion yn y syrjeri ble mae hi’n gweithio fel meddyg, mae Catrin o dan yr argraff ei bod hi am ganu Rhywbeth o’i Le gyda Band Pres Llareggub yn unig.

Ond pan mae Huw Chiswell yn cerdded i mewn i’r ymarfer, mae Catrin yn cael sioc go fawr arall!

“Mae athrylith cerddorol mwya’r genedl newydd ddod i mewn i neuadd Mynytho! Oni wir yn meddwl bod fy nghalon i’n mynd i stopio!”

A cawn fwynhau perfformiad arbennig iawn o Rhywbeth o’i Le o Neuadd Mynytho gyda Catrin, Huw Chiswell a Band Pres Llareggub.

Ac mae’r profiad wedi bod yn un dirdynol iawn i Catrin: “Mae hi wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn, a dydw i ddim yn berson emosiynol – dwi’n rhedeg ar synnwyr cyffredin a rhesymeg! Ond mae cerddoriaeth yn gwneud pethau mawr i rywun dydi. Mi gofia’i hyn cyn hired a gofia’i ddim byd arall!”

Canu Gyda fy Arwr
Nos Sul 1 Ionawr 8.00, S4C                        
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Author