Home » Heol y March yn ennill Côr Cymru 2015
Cymraeg

Heol y March yn ennill Côr Cymru 2015

Community service: Jake Stewart

cor cymruWEDI wythnosau o gystadlu brwd, coronwyd Côr Heol y March yn enillwyr Côr Cymru 2015 mewn ffeinal wefreiddiol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Y côr plant o Bont-faen, dan arweiniad Eleri Roberts, oedd dewis y beirniaid. Roedd yn benwythnos bythgofiadwy i’r arweinydd, gan mai côr arall o dan ei harweiniad hi, Côr Ysgol Iolo Morganwg, Y Bont-faen, enillodd Wobr Côr Cymru Cynradd, cystadleuaeth newydd ar gyfer ysgolion cynradd a gynhaliwyd nos Sadwrn.

Roedd hi’n noson fawr i Barti Llwchwr hefyd, gan mai’r parti hwn enillodd wobr ‘Dewis y Gwylwyr’ a’i harweinydd Janet Jones enillodd dlws yr arweinydd, gwobr a noddwyd gan Westy Llety Parc, Aberystwyth.

Y pum côr yn y ffeinal oedd Cywair o Gastell Newydd Emlyn enillydd categori’r corau cymysg, Côr Heol y March o’r Bont-faen enillwyr categori’r corau plant, Parti Llwchwr o gategori’r corau merched, Ysgol Gerdd Ceredigion o gategori’r corau ieuenctid ac enillydd rownd y corau meibion, Bechgyn Bro Taf o Gaerdydd.

Y pedwar côr yn rownd derfynol cystadleuaeth corau ysgolion cynradd Cymru oedd Côr Ysgol Iau Llangennech, Ysgol Gymraeg Teilo Sant (Llandeilo), Côr Ysgol y Wern (Llanisien, Caerdydd) a Chôr Ysgol Iolo Morganwg (Y Bont-faen).

Cyflwynwyd y noson gan Morgan Jones a Heledd Cynwal yn fyw o Geredigion.

online casinos UK

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen, Heledd Cynwal: “Mae’n brofiad arbennig i gyflwyno’r gyfres hon. Dyma gystadleuaeth gyffrous â llawer o haenau gwahanol iddi. Yn wahanol i’r Eisteddfod, mae’r beirniaid rhyngwladol yn ddall i’r clyweliadau cychwynnol ac mae pob côr yn dechrau gyda llechen lân – dyna sy’n unigryw am Côr Cymru. Mae gweld y corau’n cymysgu â’i gilydd gefn llwyfan yn hyfryd ac mae pawb yn teimlo’n gymaint yn rhan o’r holl beth. Mae’r corau hefyd yn cael adborth yn syth, sy’n beth da.”

Cynhaliwyd Côr Cymru bob yn ail flwyddyn ers 2003, ac enillydd y gystadleuaeth yn 2013 oedd Côr y Wiber o Gastell Newydd Emlyn.

Author