MAE’R HERALD SIR BENFRO wedi derbyn llythyr agored gan Gyfeillion Rhys ap Gruff udd. Mae’r cyfeillion yn mynegi eu pryder am

ddyfodol Castell Aberteifi ei Seisnigeiddio. Yn benodol, mae’r grŵp yn gresynu methiant ymddiriedolwyr y Castell er mwyn sicrhau bod yr ŵyl agoriadol ym mis Gorff ennaf yn ddathliad o ddiwylliant Cymru. Mae’r llythyr yn darllen: Rydym ni sydd wedi llofnodi’r ddogfen hon, ar ran nifer helaeth o drigolion ardal Aberteifi a’r genedl Gymreig gyfan, yn galw ar Ymddiriedolwyr Castell Aberteifi i adolygu eu penderfyniad i wahodd Bellowhead i berff ormio fel prif atyniad achlysur dathlu ail-agor y castell ar Orff ennaf 25.
Rydym yn cydnabod artistri a rhagoriaeth Bellowhead ym maes cerddoriaeth ar draws y byd ac fel cynheiliaid pybyr y traddodiad gwerin Saesneg. Serch hynny, rydym o’r farn fod gwahodd hyd yn oed y gorau o blith bandiau gwerin Saesneg i fod yn brif atyniad achlysur mor arwyddocaol yn hanesyddol a diwylliannol, na welwyd ei debyg cynt yn hanes y genedl Gymreig, yn faux pas o’r mwyaf. Pe bai yna achlysur o gyff elyb arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol yn cael ei gynnal yn Lloegr amheuwn yn fawr a fyddai band gwerin Cymreig yn cael ei wahodd i fod yn brif atyniad yn y cyngerdd agoriadol. Pan gafodd y castell carreg gwreiddiol ei gwblhau yn 1176, fel y cyntaf o’i fath yng Nghymru, penderfynodd y preswylydd, yr Arglwydd Rhys ap Gruff udd, wahodd cerddorion o’r gwledydd Celtaidd i gymryd rhan yn y dathliadau. Ystyrir y digwyddiad fel yr Eisteddfod gyntaf erioed i gael ei chofnodi.
O ganlyniad gresynwn at absenoldeb yr Archdderwydd presennol a’r Gorseddigion o’r dathliadau. Credwn yn gryf y dylai achlysur cyff elyb a gynhelir dros 800 mlynedd yn ddiweddarach gael ei ddathlu mewn modd cyff elyb yn arbennig gan fod cerddoriaeth Geltaidd nid yn unig wedi goroesi ond yn dal i ff ynnu hyd y dydd heddiw. A chwithau wedi derbyn £12 miliwn mewn grantiau adnewyddu galwn arnoch i anrhydeddu eich ymrwymiadau i’r gymuned yn lleol, ac i’r genedl yn ehangach, trwy drefnu cyfres o achlysuron a fydd yn tynnu sylw at y cyfoeth o dalent sy’n bodoli’n lleol, ac yn genedlaethol, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r gwledydd Celtaidd. Rydym yn sylwi ar y defnydd cyson o’r ymadrodd ‘high end heritage market’.
Gofynnwn i chi hefyd ddangos ymrwymiad cadarn i fwrlwm dreftadaeth diwylliannol cyfoes yr ardal. Nodwedd o Dywysogion y Canol Oesoedd oedd eu nawdd i feirdd a cherddorion eu cyfnod. Deallwn i chwi wrthod cais i gynnal cyfarfod agored o Bwyllgor yr Ymddiriedolwyr beth amser nôl pan fynegodd unigolion bryder ynghylch y llwybr rydych wedi’i gymryd. Mae’r pryder hwnnw yn parhau ac anogwn yr Ymddiriedolwyr i adolygu eu trefniadau er mwyn dathlu yn hytrach na bychanu’r hyn sy’n annwyl i ni o ran y diwylliant Cymreig. Deallwn hefyd fod o leiaf un aelod gwerthfawr o’r gymuned eisoes wedi ymadael â’r Pwyllgor oherwydd ei hanniddigrwydd ynghylch y llwybr roedd y Pwyllgor wedi’i ddewis iddo’i hun.
Add Comment