Home » Mae dolffiniaid ac asynnod yn cael help llaw
Cymraeg

Mae dolffiniaid ac asynnod yn cael help llaw

MAE’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod bron £15 miliwn ar gael i berchenogion a rheolwyr tir sydd am wella bioamrywiaeth er mwyn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.


Bydd y Rhaglen Rhwydweithiau Natur yn helpu pob math o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru i ffynnu drwy gael eu rheoli’n well – o forfeydd heli ac aberoedd i goedwigoedd a glaswelltiroedd – a bydd hefyd yn helpu pobl i feithrin cysylltiad â natur er mwyn gwella’u lles.


Mae’r safleoedd hyn yn gartref i greaduriaid eiconig – fel y dyfrgi, y dolffin trwynbwl a’r morlo llwyd, a hefyd i rai llai cyfarwydd – fel llysiau’r afu petalog a malwod troellog. Maent hefyd yn gartref i amrywiaeth eang o adar, gan gynnwys y pâl, sydd mewn perygl difrifol.


Mae Fferm Moel y Ci ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yn un prosiect o’r fath sydd wedi elwa yn y gorffennol ar gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae’n bwriadu cyflwyno cais arall.
Mae’r fferm yn defnyddio asynnod – rhai ohonynt wedi’u hachub ar ôl cael eu hesgeuluso ym more’u hoes – i bori glaswelltir pwysig er mwyn rheoli rhedyn ymledol ar y tir.


Yn ôl arweinydd y prosiect, Ruth Stronge, mae hynny wedi creu lle ar gyfer tegeirianau prin a phlanhigion eraill, ac mae hynny, yn ei dro, wedi rhoi hwb i bryfed ac wedi denu adar i’r ardal.
Mae Fferm Moel y Ci yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr lleol i ofalu am yr asynnod, ac yn ôl Ruth, mae hynny wedi bod o gymorth i iechyd meddwl pawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith: “Mae’r asynnod yn hapus, mae’n gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr yn hapus, mae’n hamgylchedd yn ffynnu – mae pawb a phopeth ar eu hennill!”


Mae rheoli tir yn dda gan ddefnyddio’r dulliau pori cywir a phlannu rhywogaethau cymysg yn golygu bod bywyd gwyllt yn ffynnu, bod llygredd niweidiol yn cael ei leihau a bod cymaint â phosibl o garbon yn cael ei amsugno o’r atmosffer.


Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Gall rheoli tir yn wael arwain at ganlyniadau trychinebus nid yn unig i’n hecoleg, ond hefyd i iechyd pobl Cymru.


“Ond ’drychwch beth ellir ei gyflawni drwy reoli tir yn dda – o gael ychydig o help llaw, gall ein planhigion, ein bywyd gwyllt a’n cymunedau ffynnu!


“Hoffwn i annog pob perchennog a rheolwr tir i wneud cais am y cyllid hwn drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, er mwyn ichi fedru helpu i drosglwyddo Cymru doreithiog o ran bioamrywiaeth i genedlaethau’r dyfodol.”


Meddai Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae CNC yn falch tu hwnt o gael ymuno ag eraill i gefnogi’r cyllid pwysig hwn ac i chwarae ein rhan yn y gwaith o gynyddu’r momentwm sydd ei angen i adfywio’r byd naturiol.

online casinos UK


“Rydym yn annog rheolwyr tir ledled y wlad i fanteisio ar y cyfle hwn, i weithio gyda’i gilydd ac eraill i helpu i gyflwyno portffolio eang o brosiectau uchelgeisiol a fydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt am genedlaethau i ddod.”

Author