Home » Mae Eisteddfod T yn ei hôl, ac yn fwy arloesol fyth
Cymraeg

Mae Eisteddfod T yn ei hôl, ac yn fwy arloesol fyth

GYDAG Eisteddfod T ar fin meddiannu’r tonfeddi dros hanner tymor y Sulgwyn, mae’r Urdd yn addo gŵyl ddigidol fwy arloesol fyth eleni. Nid yn unig y mae niferoedd y cystadleuwyr wedi dyblu ers llynedd o 6,000 i 12,000, ond mae’r trefnwyr ar fin lansio ap fydd yn galluogi defnyddwyr i ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd rithiol, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Mae crwydro’r maes yn rhan annatod o’r profiad Eisteddfodol, felly o fewn diweddariad o ap Eisteddfod yr Urdd mi fydd map rhithiol yn adlewyrchu bwrlwm y maes gyda dolenni byw i dros 100 o fideos a gweithgareddau hwyliog – o sesiynau pabell GwyddonLe, CogUrdd a Phentre’ Mistar Urdd, i ddisgo yng Ngwersyll Caerdydd a gig yng Nglan-llyn, a llawer mwy.

Mi fydd yr ap hefyd yn gartref i Arddangosfa Rithiol o holl waith buddugol adran Celf a Dylunio, a modd i ddefnyddwyr penwisg virtual reality fwynhau profiad 3D o’r arddangosfa at hynny. Gellir lawrlwytho ap ‘Eisteddfod yr Urdd’ yn rhad ac am ddim o ddydd Gwener 28 Mai ymlaen (Apple store + Play Store).

Darlledir Eisteddfod T o stiwdio bwrpasol yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ac felly er bod cystadlaethau’r ŵyl wedi’u recordio o flaen llaw, mi fydd amrywiaeth o elfennau byw ar leoliad yn rhan o’r arlwy – gan gynnwys y prif seremonïau.

Yn ogystal, cynhelir Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod T yn rhithiol eleni, sef noson yng nghwmni Steffan Rhys Hughes a thalentau Sir Ddinbych. Recordiwyd y gyngerdd o flaen llaw yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, a bydd yn cael ei darlledu ar-lein ar nos Sul, 30 Mai am 7pm. Pris e-docynnau yw £15 a bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Gyda safon y cystadlu wedi bod yn aruchel unwaith eto eleni, a’r deunydd ysgafn yn gymaint o donig, mi fydd Eisteddfod T yn wythnos llawn adloniant pur o’r dechrau i’r diwedd.

online casinos UK

“Mi ydan ni wedi addo Eisteddfod ddigidol fwy arloesol fyth ar draws yr holl blatfformau, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau newydd drwy lansio ap Eisteddfod T. Mi fydd y farchnad ddigidol Maes T hefyd yn dod â bwrlwm yr ŵyl i Facebook unwaith eto, ac yn rhoi cyfle gyfle i bobl siopa o’r soffa a chefnogi crefftwyr a chwmnïau Cymru drwy gydol yr wythnos.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Gwersyll yn Llangrannog yn adnodd hynod o bwysig i’r mudiad ac i ni yng Ngheredigion, a braf iawn yw gweld yr Urdd yn gwneud defnydd o’r Gwersyll mewn ffordd greadigol i hybu adloniant i blant a phobl ifanc Cymru. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y wledd o gystadlu a mwynhau dros wythnos yr Eisteddfod.”

Darlledir Eisteddfod T mewn cyfres o raglenni arbennig ar S4C a BBC Radio Cymru2 drwy gydol wythnos arferol yr Eisteddfod, sef o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin. Bydd y ddarpariaeth ar S4C yn dechrau yn fyw o 10 o’r gloch ymlaen yng nghwmni’r cyflwynwyr Heledd Cynwal, Trystan Ellis-Morris a Rhianna Loren, ynghyd â rhaglen uchafbwyntiau gyda’r nos.

Rhwng 9 ac 11 o’r gloch ar Radio Cymru2, bydd Mirain Iwerydd ac Ellis Lloyd Jones yn dechrau’r diwrnod gyda’u rhaglen arbennig ‘Mirain, Ellis a T’, gyda phob math o gyfraniadau gwych a gwahanol gan bobol ifanc ar draws Cymru. Ac yna rhwng 2 a 5 o’r gloch, Ifan Evans a Ffion Emyr fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T ar y tonfeddi.

Author