Home » Mae y byd yn dod i Langollen
Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Author

Tags