Home » Merched y Wawr, Ffynnongroes
Cymraeg

Merched y Wawr, Ffynnongroes

WIWel mae ‘n mis Rhagfyr yn barod, a i ni wedi gorffen y flwyddyn gyda cracer go iawn o noson. Aethom lawr i cartref Parcyllyn, yn Treamlod i ddiddani’r deiliaid. Gyda rhaglen fach yn llawn hiwmor y nadolig ag ambell i garol,a braf oedd gweld y gynilleidfa yn canu a chwerthin. Cafwyd gwydred o win twym a mins pei i orffen, a croeso Parcllyn a ysbryd y noson yn twymor galon. 

Ymlaen wedyn i’r Blaidd am barti go iawn. Eto croeso bendigedig a bwyd blasus iawn a digon ohono. Sandra a Ceri wedi trefnu chwaraeon i ni , a llond lle o chwerthin iach. Da iawn ferched i chi wedi rhagori ar eich hunen. Pwy all peidio a mwynhau Nadolig ar ol nosweth fel hon.

Bu pedair o’n merched yn cystadlu yn y Sioe Aeaf gyda’i catwad a gwei. Ond ddim lwc tro ma ,ond fe ddaliwn ati i gystadlu. Llongyfarchiadau i Rhian Selby ar ddod yn famgu unwaith yn rhagor, i Carina fach. Ma hi hefyd yn dathlu penblwydd arbenig, penblwydd hapus. Mis Ionawr byddwn yn cwrdd ar nos FERCHER y 14eg i wneud Bokwa, ychydig o ymarfer corff ar ol yr holl gorfwyta dros yr wyl. Blwyddyn Newydd dda i bawb. Merched Ffynnongroes wedi cal gafel yn ategolyn bach neis iawn.

Author