Home » Mwy o cyllid ar gyfer Rali GB Cymru
Cymraeg

Mwy o cyllid ar gyfer Rali GB Cymru

Rali GBRALI CYMRU GB y llynedd oedd y fwyaf llwyddiannus erioed – daeth â miliynau o bunnau i Gymru a miloedd o bobl i wylio’r ceir yn rasio, a chafwyd cynulleidfa deledu o 600 miliwn ledled y byd.

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi rhoi croeso cynnes i’r canlyniadau interim, a heddiw fe gyhoeddodd ei bwriad i roi cymorth ariannol ychwanegol i’r Rali am y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddi barhau i lwyddo.

”Rali Cymru GB yw un o’n digwyddiadau mwyaf ni. Mae’n cael sylw ledled y byd, ac felly rwy’n arbennig o falch bod yr ymdrechion i adfywio’r digwyddiad hwn a denu rhagor o wylwyr achystadleuwyr wedi dwyn ffrwyth.

“Mae trigolion gogledd a chanolbarth Cymru’n hynod gefnogol o’r Rali, ac yn ôl yr awdurdodau lleol a busnesau’r ardal fe dyfodd y gweithgarwch economaidd yn sgîl y Rali. Rydym yn awyddus i Gymru fanteisio i’r eithaf ar y Rali, a dyna pam rwyf wedi cytuno mewn egwyddor i roi cyllid i Rali Cymru GB am y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi hyd at £1.5m y flwyddyn i helpu i gynnal y Rali yn 2014 a 2015, a bwrw bod y digwyddiad yn llwyddo i gyrraedd y targedau a gytunwyd.

Dywedodd Andrew Coe, Prif Weithredwr cwmni International Mortor Sports, trefnwyr y Rali:

online casinos UK

“Wrth gwrs, rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru’n parhau i’n cefnogi ni. Drwy symud i Ogledd Cymru, fe lwyddon ni i adfywio Rali Cymru GAB 2013 ac mae gennym gynlluniau cyffrous i ychwanegu at y llwyddiant hwnnw drwy gynnal y Rali Cymru GAB fwyaf a gorau erioed ym mis Tachwedd eleni. Yr eisin ar y gacen yw’r fraint o gael Elfyn Evans, un o yrwyr rali gorau Cymru, yn cystadlu mewn tîm pencampwriaeth y byd – hwb enfawr arall i Rali Cymru GAB a’r sin chwaraeon yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi cynhadledd fodurol a diwrnodau i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r diwydiant yn 2014 a 2015. Cynhelir y digwyddiadau hyn i gyd-fynd â’r Rali a bwriedir ailargraffu Cyfeirlyfr Chwaraeon Modur hefyd er mwyn hyrwyddo busnesau modurol Cymru.

Autolink Wales – trefnwyd y gynhadledd fodurol gan Fforwm Fodurol Cymru ar y cyd â phartneriaid ac fe’i cynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno. Denwyd 35 o gwmnïau a 130 o gynrychiolwyr i’r digwyddiad a chafwyd cyflwyniadau gan Cylchffordd Cymru a Chyfarwyddwr Caffael JLR.

Trefnwyd y Diwrnodau Codi Ymwybyddiaeth o’r Diwydiant gan Lywodraeth Cymru, Ta, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a Chyngor Sir y Fflint, ac fe’u cynhaliwyd mewn pabell fawr yn y parc gwasanaethau. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa sydd yn y sector modurol a chwaraeon modur. Daeth 650 o fyfyrwyr i’r diwrnodau hyn a chawsant daith o amgylch ffatri Toyota.

Roedd 24 sefydliad yn arddangos yno hefyd, a chafwyd 150 o ymgeiswyr mewn cystadleuaeth i ddylunio lliwiau tîm i geir rasio.

Author