Home » Neges Dydd Gwyl Dewi Sant gan y Llywydd
Cymraeg

Neges Dydd Gwyl Dewi Sant gan y Llywydd

“Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.

“Fel Seneddau ledled y byd, mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe barhaodd democratiaeth yng Nghymru, hyd yn oed yn nyfnderoedd y clo mawr. O ganlyniad i ddyfeisgarwch ac ymrwymiad y Senedd i’w phobl, roedd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau – penderfyniadau a effeithiodd ar fywydau pob person yng Nghymru.

“Mae heddiw yn garreg filltir allweddol i ni. Am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, gwahoddir pob un o’r 60 Aelod i ddod i’r Siambr eto. 

“Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes ein Senedd, mae’n briodol ein bod – ar Ddydd Gŵyl Dewi – yn oedi ac ystyried digwyddiadau rhyngwladol. Yn gyfle i gydnabod pwysigrwydd ein strwythurau democrataidd ac eto pa mor fregus maent yn gallu bod.

“Mae’n anochel bod ein meddyliau’n troi at Wcráin a’i dinasyddion arwrol sy’n dioddef caledi anhygoel wrth frwydro i ddiogelu a chynnal eu cenedl sofran, eu democratiaeth falch, a’u ffordd o fyw. Rydym yn meddwl am y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol niferus y mae Cymru’n eu rhannu ag Wcráin a’r gymuned Wcrainaidd uchel ei pharch sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddi.

“Unwaith eto heno, fe fydd y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin fel arwydd o’n undod â hwy. Mae Wcráin a’i phobl yn parhau yn ein calonnau.

online casinos UK

“Ar Ddydd Gwyl Dewi yma felly, dewch i ni drysori yr hyn sydd gennym ac hefyd estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad.”

Elin Jones AS, Llywydd y Senedd

Author