Home » Paratoi ar gyfer Rali’r Anfarwolion
Cymraeg

Paratoi ar gyfer Rali’r Anfarwolion

Paratoi ar gyfer Rali’r AnfarwolionMae Conwy a Llandudno wrthi’n brysur yn paratoi i gynnal partis mawreddog i groesawu’r achlysur.

Castell hanesyddol Conwy fydd yn gefndir i Seremoni Agoriadol rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r Byd yr FIA 2013 nos Iau a bydd y Seremoni Clo yn cael ei chynnal yng nghanol prysurdeb Stryd Mostyn bnawn dydd Sul. Ar ben hyn, gall unrhyw un fwynhau’r seremoni am ddim.

Bydd llawer o geir mwyaf rhyfeddol y byd yn rhoi gwledd i lygaid y dorf yn y RallyFest yng Nghastell Y Waun yn hwyrach ymlaen y mis hwn ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd. Mae cymalau newydd RallyFest wedi’u llunio i gyfoethogi profiad gwylwyr o bob oed drwy gynnig diwrnod llawn o adloniant yn ogystal â’r wefr a’r cyffro arferol sy’n rhan o gymal mewn rali.

Cynhelir Rali Cymru Prydain Fawr GB eleni mewn Park Gwasanaethau pwrpasol newydd sbon yng Ngogledd Cymru wrth ymyl Gwaith Injans Toyota ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy. Mae Llywodraeth Cymru ac International Motor Sports, trefnwyr y digwyddiad, wedi buddsoddi gwerth £250,000 yn y safle.

Mae hyn yn golygu nid yn unig bod gan y timau sy’n cystadlu ddigon o le addas i drin eu ceir technoleguchel, bwydo eu personél a diddanu eu gwesteion, ond hefyd bod lle ar gyfer llu o atyniadau ychwanegol. Ar ben hyn, mae mynediad i’r cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy AM DDIM.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion sy’n deillio o gynnal digwyddiad rhyngwladol mor nodedig yng Ngogledd Cymru, bydd cyfle i ysgolion lleol flasu profiad Ymwybyddiaeth o Ddiwydiant pwrpasol yn y Parc Gwasanaethau.

online casinos UK

Bydd y digwyddiad yn gyfle I fyfyrwyr ddysgu mwy am ddylunio, gweithgynhyrchu a thechnoleg ac yn rhoi cipolwg iddynt ar y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt os ydynt yn parhau i astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Yn ogystal â chael y cyfle i gael golwg manwl ar y ceir technoleg-uchel sy’n cystadlu ar reng flaen Pencampwriaeth Rali’r Byd, bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at arbrofion diweddaraf Techniquest, Technocamps, cymryd rhan yn Her 2D Jaguar Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (CABC) ac mewn nifer o weithgareddau ymarferol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu lleol.

Author