Home » Parcmon y Parc Cenedlaethol yn cynorthwyo i achub o’r clogwyni mewn modd anarferol
Cymraeg

Parcmon y Parc Cenedlaethol yn cynorthwyo i achub o’r clogwyni mewn modd anarferol

Parc CenedlaetholYN DDIWEDDAR ymunodd Parcmon Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gweithio hefyd fel Gwyliwr y Glannau gyda’i chydweithwyr i helpu i gadw traeth diarffordd yn hardd.

Galwodd Parcmon Castell Martin Lynne Houlston ar ei chyd-Wylwyr y Glannau i glirio wyth tunnell o sbwriel a chwythwyd gan y gwynt o un o draethau hardd y Parc Cenedlaethol.

Roedd y sbwriel o Fae Fflilmston ar Faes Tanio Castell Martin yn cynnwys plastig, rhwydi a photeli nwy. Cymerodd dros bedair awr i 12 o bobl ei dynnu i fyny’r clogwyni.

Dywedodd Lynne, sy’n gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei swydd fel Parcmon Castell Martin:

“Gofynnwyd i ni a allai unrhyw un helpu i dynnu bagiau o sbwriel o Fae Fflimston. Fel Parcmon doeddwn i ddim yn gallu helpu gan fod y clogwyni’n rhy serth; ond fel Gwyliwr y Glannau fe allwn ni helpu oherwydd rydym ni’n hyfforddi ar y clogwyni.

“Roedd y sbwriel wedi’i hel gan griw ffilm oedd yn defnyddio’r traeth ond roedd rhaid ei symud oddi yno neu yn y pen draw fe fyddai wedi cael ei olchi’n ôl i’r môr.”

Mae’n anochel fod sbwriel yn cael ei olchi i’r lan ar draethau’r Parc Cenedlaethol o bryd i’w gilydd, a dyw Bae Fflimston ddim yn eithriad.

Ychwanegodd Lynne : “Gydag arfordir Sir Benfro’n barod i wynebu tywydd garw’r gaeaf, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gadw’n traethau’n rhydd rhag sbwriel er mwyn sicrhau bod unrhyw ddifrod i’r amgylchedd arfordirol mor fach â phosibl.”

Cadwch olwg am gyrchoedd glanhau traethau a dilynwch y Cod Cefn Gwlad ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.

Author