Home » Penarlâg yn ffynnu unwaith eto wedi llacio cyfyngiadau’r pandemig
Cymraeg Flintshire

Penarlâg yn ffynnu unwaith eto wedi llacio cyfyngiadau’r pandemig

Mae nosweithiau cerddoriaeth wythnosol Hawarden Estate wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd ar yr ystâd ers i'r cyfyngiadau godi.

MAE PENTREF Penarlâg yn Sir y Fflint yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus wrth i newidiadau a sbardunwyd gan y pandemig ddechrau dwyn ffrwyth.

Bu atyniadau’r pentref yn boblogaidd dros ben ers llacio’r cyfyngiadau ym mis Awst ac mae busnesau lleol wedi gweld twf cryf yn nifer yr ymwelwyr a ddenwyd gan y gweithgareddau a gwasanaethau newydd.

Ar safle Hawarden Estate defnyddiwyd cyflenwyr lleol yn ystod y pandemig i adnewyddu siop fferm a thafarn yr ystâd i greu siop groser gyda ffocws cymunedol, ynghyd â chyflwyno gweithgareddau newydd sy’n denu ymwelwyr yn ôl i dir yr ystâd.

Un o’r mesurau i gynnal protocolau Covid y mae Llyfrgell Gladstone wedi’i gyflwyno ers ailagor.

Ychwanegwyd safle gwersylla atyniadol i deuluoedd hefyd, gan lwyddo i osod 90% o’r mannau aros ers ei agor.

Meddai Tom Cronk, pennaeth marchnata grŵp Hawarden Estate: “Y gwir yw na allwn oroesi heb gefnogaeth ein cymuned leol. Mae pobl leol wedi gwerthfawrogi ein gwaith caled yn ystod y pandemig ac wedi ymateb drwy gefnogi’r busnes yn frwd.

“Newidiwyd y Glynne Arms dros nos o fod yn dafarn yn unig i siop gymunedol sy’n llawn o gynnyrch ardderchog yr ystâd a chyflenwyr cyfagos. Apeliodd hyn yn fawr i’n cwsmeriaid ac mae’n destun balchder fod y siop wedi gweithredu fel angor i’r gymuned mewn cyfnod anodd.

online casinos UK

“Rhoddodd llwyddiant ein datblygiadau yr hyder inni drefnu cyfres o ddigwyddiadau lle gwelwyd arwyddion pendant o dwf, gyda channoedd o bobl yn dod i’n nosweithiau cerddorol wythnosol a mwynhau ein dewis cynyddol o weithgareddau fel ioga a gwersi meistr coginio.”

Mae aelodau staff a gwirfoddolwyr o Lyfrgell Gladstone yn croesawu ymwelwyr yn ôl yn dilyn ailddatblygiad o fynedfa’r safle, coridorau mynediad, a chyfleusterau llety ynghyd â digideiddio pellach o’i archifau a’i systemau cyfeirio.

Atyniad arall ym Mhenarlâg a welodd adferiad cryf yw Llyfrgell Gladstone / Gladstone’s Libary. Cynyddwyd y defnydd gan bobl leol a chyflwynwyd prosiectau newydd gyda’r nod o ehangu’r gynulleidfa fyd eang yn ogystal.

Mae’r Llyfrgell wedi hwyluso mynediad i’r adeilad hanesyddol trwy ddatblygu’r fynedfa, y coridorau mynediad a’r cyfleusterau aros. Hefyd cafodd yr archifau a’r systemau cofnodi a chatalogio eu digiteiddio.

Mae rhaglenni fel y cynllun ysgrifenwyr preswyl ‘Writers in Residence’ wedi ailddechrau a bydd y bardd Isabel Galleymore yn cynnal sgwrs ar ôl-ddyneiddiaeth a dosbarth meistr eco-farddoniaeth ym mis Tachwedd. Bellach mae’r llyfrgell yn medru darlledu’n fyw dros y we yn ogystal â chroesawu mynychwyr personol.

Meddai Peter Francis, warden a chyfarwyddwr Llyfrgell Gladstone: “Ar ôl inni fod ar gau am bron i 18 mis, mae’n gyffrous gweld y llyfrgell yn lle llawn bywyd unwaith eto, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal o’r newydd ac ymwelwyr yn frwd i weld y newidiadau wnaethom.

“Cawsom ein syfrdanu gan faint y gefnogaeth a gawsom gan ein cymuned leol yn ystod y pandemig. Ac mae’n braf gweld fod y gefnogaeth honno wedi parhau ers inni ailagor, gyda gwirfoddolwyr newydd yn fodlon helpu gyda phob dim o gadwraeth llyfrau i gynnal a chadw’n gerddi hardd.

“Heb y cymorth hwn, byddai’r llyfrgell yn lle tra gwahanol. Mae’r gefnogaeth wedi caniatáu inni fuddsoddi rhagor, cyflogi mwy o staff, addasu ein gwasanaethau i gwrdd â gofynion modern a gwella profiadau ein hymwelwyr.”

Un o feysydd gwersylla teulu-gyfeillgar newydd Hawarden Estate, sydd wedi meddiannu mwy na 90 y cant ers agor.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae datblygiadau Llyfrgell Gladstone a Hawarden Estate yn enghreifftiau ardderchog o’r gwaith gwych a wnaed gan fusnesau Sir y Fflint yn ystod cyfnod heriol y pandemig.

“Nid yn unig y derbyniodd y ddau le gefnogaeth haeddiannol iawn gan eu cymuned leol, maent hefyd wedi datblygu cynigion newydd a gweithgareddau positif a fydd yn cynyddu poblogrwydd a phrysurdeb Penarlâg a Sir y Fflint i gyd yn y dyfodol.”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i fusnesau a thrigolion lleol rannu eu straeon am ddatblygiadau llwyddiannus yn ystod y pandemig.

Gofynnir iddynt wneud hynny naill ai ar y cyfrif Facebook Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire (@exploreflintshire) neu’r cyfrif Instagram (@explore_flintshire).I ganfod mwy am Hawarden Estate, ewch i’r wefan https://hawardenestate.co.uk ac am Lyfrgell Gladstone / Gladstone’s Library ewch i’r wefan https://www.gladstoneslibrary.org.

Author