Home » Penodi Rhuanedd Richards yn Gyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru
Cymraeg Entertainment

Penodi Rhuanedd Richards yn Gyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru

Mae Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru a’r gwasanaeth arlein BBC Cymru Fyw wedi ei phenodi i’r swydd newydd o Gyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru. 

Yn ei swydd, fe fydd hi’n goruchwylio arweinyddiaeth a datblygiad holl raglenni a chynnwys y darlledwr ar deledu, radio ac arlein, ac yn y ddwy iaith – gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Cenhedloedd a Chymru y BBC, Rhodri Talfan Davies.

Dywed Rhodri Talfan Davies: “Mae Rhuanedd yn arweinydd arbennig ac wedi gwneud argraff fawr ers dychwelyd i’r BBC bron i dair mlynedd yn ôl. Mae ei huchelgais creadigol, egni a’i ymrwymiad dwfn i’r gynulleidfa yn amlwg i bawb sy’n cydweithio â hi – ac rwy’n gwybod gymaint mae hi’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda chydweithwyr talentog yma yn BBC Cymru ac ar draws y sector gynhyrchu ehangach.”

Yn wreiddiol o Gwm Cynon, mae Rhuanedd bellach yn byw ym Mhontypridd gyda’i theulu. Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru a bu’n ohebydd yn ardal Abertawe cyn cyflwyno rhai o brif raglenni newyddion a gwleidyddol y darlledwr yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar radio a theledu.

Yn ei gwaith fel newyddiadurwr fe ohebodd ar nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol yng Nghymru a thramor gan gyfweld ffigyrau blaenllaw. Yn 2007 fe adawodd y BBC i fod yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ac yn dilyn hynny yn Brif Weithredwr Plaid Cymru. Wedyn bu’n swyddog o fewn Comisiwn Senedd Cymru fel ymgynghorydd i’r Llywydd.

Yn 2018 penodwyd Rhuanedd i arwain datblygiad gwasanaethau Cymraeg y BBC ar radio ac arlein. Yn ei swydd mae hi wedi lansio rhaglen radio newyddion bore ac amser cinio, datblygu ystod o bodlediadau newydd ar BBC Sounds a gweithio gyda phartneriaid yn ystod y pandemig ar brosiectau creadigol arlein ac ar y radio.

online casinos UK

Dywed Rhuanedd Richards: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pwysigrwydd gwaith BBC Cymru i’r gynulleidfa wedi bod yn amlycach nag erioed – yn gwmni yn ogystal â darparu newyddion, gwybodaeth ac adloniant.

“Mae’r ddarpariaeth o bwys, ac mae’n hollbwysig fod ein gwasanaethau yn adlewyrchu straeon amrywiol, cymunedau a phrofiadau ein cenedl.

“Rwy’n falch iawn o gael arwain sefydliad yng Nghymru sy’n newid ac yn arloesi. Rwy’n gwybod fod cydweithwyr ar draws BBC Cymru a’n partneriaid yn y sector ehangach wedi ymrwymo i gynhyrchu cynnwys gwych a dwi’n methu aros i gychwyn ar y gwaith.”

Bydd Rhuanedd yn cychwyn ei swydd newydd wedi’r Pasg.

Author