Home » Pentref yn elwa o gymorth i blygu perthi
Cymraeg

Pentref yn elwa o gymorth i blygu perthi

Pentref yn elwa o gymorth i blygu perthiDYSGODD GWIRFODDOLWYR sgiliau traddodiadol plygu perthi er mwyn trawsnewid ffiniau caeau ym mhentref Marloes, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ystod Wythnos Goed Genedlaethol.

Ymunodd Wardeiniaid Gwirfoddol Awdurdod y Parc gyda phentrefwyr i weithio ar berth ger tŵr y cloc ar Ddydd Iau, a’r wythnos nesaf fe fyddan nhw’n trawsnewid perth sy wedi gordyfu yn yr Ardal Hamdden.

Arweiniwyd y grŵp gan Hayley Barrett Ceidwad y Parc Cenedlaethol, gyda chymorth un o drigolion Marloes a Chyn Geidwad, Malcolm Cullen.

Digwyddodd y sesiwn gyntaf yn ystod Wythnos Goed Genedlaethol, a drefnir yn flynyddol gan y Cyngor Coed, sy’n annog cymdeithasau ac unigolion o gwmpas y DU i wneud rhywbeth positif i’w coed a’u perthi lleol.

Dywedodd Hayley : “Mae plygu perthi yn ffordd draddodiadol o gynnal y berth i greu ffin ddiogel – yn y gorffennol ei bwrpas fyddai cadw da byw i mewn neu allan.

“Ond mae hefyd yn ffordd ardderchog o ymestyn bywyd perth. Trwy ei dorri ar y gwaelod a chreu perth sy’n defnyddio brigau byw, wedi’u gosod, mae’n annog tyfiant newydd – yr un dull fydden ni’n ei ddefnyddio i brysgoedio coed.”

online casinos UK

Ychwanegodd Hayley: “Roedd yn ddiwrnod braf a llonydd ac felly roedd hi’n braf cael bod allan yn y Parc Cenedlaethol yn dysgu sgil cadw draddodiadol. Mae croeso i unrhyw un sydd am roi cynnig arni- a helpu i gadw’r Parc- i ymuno â ni’r tro nesaf.”

Cynhelir y sesiwn plygu perthi nesaf am 10am ar Ddydd Iau Rhagfyr 5ed, gan gwrdd yn Ardal Hamdden Marloes. Am fwy o wybodaeth, ebostiwch [email protected].

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei gynllun Wardeiniaid Coed Sir Benfro ei hun mewn cydweithrediad â’r Cyngor Coed.

Mae’r cynllun yn darparu hyfforddiant ymarferol i helpu i ofalu am goed lleol ac i annog ymgysylltiad y gymuned trwy brosiectau gydag
ysgolion a grwpiau lleol.Er mwyn dod yn Warden Coed yn Sir Benfro does dim rhaid i chi gael sgiliau penodol, dim ond cariad at goed. Er mwyn bod yn rhan o’r cynllun ffoniwch Mike Higgins neu Celia Thomas 0845 345 7275 neu ebostiwch [email protected]

Author