Home » Plaid Cymru i gefnogi Llafur?
Cymraeg

Plaid Cymru i gefnogi Llafur?

Elfyn LlwydGALL PLAID CYMRU gydweithio a Llafur ar ôl yr etholiad cyffredinol yn ôl eu harweinydd yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS. Dywedodd Elfyn Llwyd hyn wrth raglen teledu BBC Cymru, Sunday Politics Wales. Mae Elfyn Llwyd sy’n sefyll i lawr fel AS Dwyfor Meirionnydd ym mis Mai, yn dweud ei fod yn disgwyl senedd grog a gall trafodaethau â Llafur fod yn “llesol iawn i Gymru.”

Meddai: “Mae’n sefyllfa ddiddorol ac rwy’n credu y gallwn chwarae rôl yno. “Mae yna lawer o faterion y gallwn drafod, ac mae potensial i wneud lles mawr i Gymru trwy drafod â Llafur ar faterion unigol, ac fe fyddwn i yn cefnogi hynny yn llwyr.”

Yn ôl i Elfyn Llwyd, byddai Plaid Cymru yn chwilio am gytundeb i roi mwy o rym i’r Cynulliad, ac yn dadlau o blaid rhoi grymoedd trethiant i Fae Caerdydd heb gynnal refferendwm. Byddai Palid Cymru yn awyddus hefyd i sicrhau newidiadau i’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu.

Author