Home » Practis Deintyddol Charsfield a Phractis Deintyddol Rhos Cottage i ddychwelyd contract y GIG
Cymraeg

Practis Deintyddol Charsfield a Phractis Deintyddol Rhos Cottage i ddychwelyd contract y GIG

Gyda gofid y bydd Practis Deintyddol Charsfield yn Aberteifi a Phractis Deintyddol Rhos Cottage yn Hwlffordd yn rhoi’r gorau i ddarparu gofal deintyddol y GIG ar 22 Tachwedd 2022.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gweithio’n agos gyda Grŵp Gofal Iechyd Eskimo i ddarparu gwybodaeth i gleifion a oedd wedi derbyn gofal yn y Practis yn flaenorol am eu gofal parhaus, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt tra bod y Bwrdd Iechyd yn ymgymryd â’r broses i nodi darparwr gwasanaeth newydd ar gyfer yr ardaloedd.

Bydd y Practis yn darparu unrhyw ofal brys sydd ei angen ar gleifion tan 22 Tachwedd 2022 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth, gan gynnwys tynnu orthodontig, yn cael ei chwblhau.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i gleifion am y cymorth y maent wedi’i roi i’r Practis dros y blynyddoedd ac mae’n gwerthfawrogi’r pryderon a allai fod gan gleifion ynghylch y cyfnod hwn o ansicrwydd.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb sy’n sicrhau gwasanaethau Deintyddol y GIG ar gyfer y tymor hwy.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch apwyntiad, mae croeso i chi gysylltu â’r Practis. Ar ôl i’r Practis gau, dylai cleifion sy’n dioddef poen dannedd gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

online casinos UK

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn Practis arall, ewch i wefan BIP Hywel Dda https://hduhb.nhs.wales neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar 0300 303 8322.

Author