Home » Sêr disglair y Nadolig yn arwain at Y Gwyll ar S4C
Uncategorized

Sêr disglair y Nadolig yn arwain at Y Gwyll ar S4C

Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn
Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn
Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn

BYDD rhifyn arbennig hirddisgwyliedig o’r gyfres dditectif lwyddiannus ‘Y Gwyll/Hinterland’ ar Ddydd Calan ar S4C yn un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig sy’n llawn perfformiadau gwreiddiol, gafaelgar gan rai o sêr mwyaf y byd adloniant yng Nghymru. Bydd Richard Harrington, yr actor tu ôl i gymeriad DCI Mathias yn y gyfres dditectif, yn un o blith nifer o artistiaid bydenwog ar y sianel dros yr ŵyl, gyda Rhys Ifans, Charlotte Church, Bryn Terfel, Wynne Evans, Only Men Aloud, Karl Jenkins a Catrin Finch ymhlith y sêr rhyngwladol eraill sy’n rhan o arlwy’r sianel dros yr ŵyl. Mae S4C yn lansio ei hamserlen Nadolig, wedi ei lapio â dramâu, perfformiadau penigamp mewn rhaglenni adloniant a cherddoriaeth, rhaglenni dogfen am bobl eithriadol, chwaraeon yr ŵyl ac oriau o raglenni safonol i blant a phobl ifanc.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae’r Nadolig yn adeg gystadleuol iawn o’r flwyddyn ar y teledu, ond mae gennym amserlen all herio’r gorau sy’n rhoi llwyfan i rai o dalentau mwyaf ein gwlad greadigol ni. “Un o’r uchafbwyntiau mwyaf yw’r darllediad cyntaf o bennod newydd ‘Y Gwyll/Hinterland’ ar Ddydd Calan, rhaglen sy’n helpu i roi S4C a Chymru ar y map. A gyda S4C yn awr ar gael ar gynifer o blatfformau, gan gynnwys y BBC iPlayer, bydd modd i chi fwynhau’r rhaglen ble bynnag y byddwch chi yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ionawr.

“Ond wrth arwain at y bennod arbennig o ‘Y Gwyll/Hinterland’ ddydd Calan, bydd rhaglenni’r Nadolig yn cynnig adloniant, drama, chwaraeon a rhaglenni ffeithiol i’w cofio. Gyda sêr rhif y gwlith yn addurno’n hamserlen – bydd hi’n Nadolig disglair ar S4C.” Yn arwain yr ymgyrch Nadolig mae Robin Goch S4C, sef robin frongoch eiconig animeiddiedig y sianel yn amlygu amserlen o raglenni cyffrous. Gallwch ei ddilyn ar yr ymgyrch arlein ac ar Twitter, @RobinGochS4C ac ar Facebook.

Ac os gwelwch robin yn eich gardd neu o gwmpas y lle, ychwanegwch farc ar ein map rhyngweithiol a gorchuddio Cymru gyfan â robins coch! Bydd DCI Tom Mathias a’r tîm yn ôl yn y gyfres dditectif ‘Y Gwyll/Hinterland’ a leolir yn ardal Aberystwyth, Ceredigion, i archwilio i achos o dân bwriadol yn ogystal â stori am dor calon a cholled wrth inni ddarganfod mwy am fywyd a hanes y ditectif. Fe fydd y bennod arbennig yn sicr yn flas o’r hyn sydd i ddod yn yr ail gyfres yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae misoedd wedi mynd heibio ers i Mathias gefnu ar ei waith o dan amgylchiadau trasig. Gyda’i gariad wedi marw a gwaed ar ei ddwylo, mae ei holl ddyfodol yn y fantol. Mae ei yrfa yn deilchion, ond mae’r Prif Uwcharolygydd Prosser yn dal i gredu ynddo ac yn ei alw yn ôl i’w waith. Mae gwledd ddrama S4C hefyd yn cynnwys yr addasiad ffilm gyntaf o ‘Under Milk Wood’ ers dros 40 mlynedd, wrth i’r sianel ddarlledu’r fersiwn Gymraeg ‘Dan y Wenallt’ ar 27 Rhagfyr.

Gyda Rhys Ifans fel Y Llais Cyntaf a Chapten Cat a Charlotte Church fel Polly Gardis bydd dehongliad swreal a nwydus newydd y cyfarwyddwr Kevin Allen o addasiad Cymraeg, T James Jones yn taflu goleuni newydd ar ddrama radio Dylan Thomas. Bydd rhifynnau Nadoligaidd o ‘Pobol y Cwm’ a ‘Rownd a Rownd’ hefyd yn ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd. Mae dawn gerddorol Cymru yn gwneud i’r byd i wrando a byddwn yn gwerthfawrogi pam mewn rhaglenni Nadolig arbennig gyda’r tenor Wynne Evans, sy’n enwog am lawer mwy o resymau na chymeriad Gio Compario yn ‘Nadolig Wynne’ ar 20 Rhagfyr.

Yna bydd y basbariton bydenwog Bryn Terfel yn dod â gwledd o garolau gwerin draddodiadol ar Ddydd Nadolig a ffilmiwyd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Yn ogystal, mae’r cantorion enwog Only Men Aloud yn eu hôl gyda dwy raglen arbennig. Bydd ‘Only Men Aloud: Y Bois ar Enlli’ yn dilyn pererindod y bois i Ynys Enlli ar Noswyl y Nadolig, ac yna cawn fwynhau eu perfformiadau lliwgar yn ‘Only Men Aloud: Y Sioe’ ar Ddydd Nadolig. Yn hoff o gerddoriaeth glasurol?

online casinos UK

Yna, byddwch yn siŵr o fwynhau’r perfformiad cyntaf o ddarn o waith newydd Karl Jenkins a choncerto Catrin Finch fel teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ‘Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn’. Nid yw’r tymor o ewyllys da yn ymestyn i’r caeau chwarae rygbi a phêldroed gyda darllediadau byw o’r ddwy gêm dderbi Pro 12 rhwng y Gweilch a’r Scarlets yn ‘Clwb Rygbi’ a’r holl gyffro o Uwch Gynghrair pêldroed Cymru yn ‘Clwb’.

Daw straeon o fyd y campau ac o’r galon ynghyd mewn portread gonest a gafaelgar o’r darlledwr a sylwebydd Huw Llywelyn Davies tra bod stori ddirdynnol i’w hadrodd yn y gyfres ‘Gohebwyr’ wrth i John Stevenson olrhain hanes newyddiadurwyr am fywyd a marwolaeth ffotograffydd i’r wasg Ian Parry. Ac mae digon o le ar ôl i fyd natur wrth i’r naturiaethwr Iolo Williams fynd ar drywydd bywyd gwyllt y Nadolig yn ‘Natur Nadolig Iolo’.

Author