Home » Sialens Gerdded Ceredigion
Cymraeg

Sialens Gerdded Ceredigion

OES gennych chi ddiddordeb i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion, o glogwyni gwyllt gwyntog i ddyffrynnoedd coediog cysgodol? Beth am gymryd rhan yn Sialens Gerdded newydd Ceredigion?

Mae tîm Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion wedi sefydlu sialens newydd i gynyddu nifer y bobl sy’n archwilio llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn ogystal â chynyddu iechyd a lles pobl.

O hanner tymor mis Chwefror, bydd amryw o deithiau cerdded ar draws y sir yn cael eu cyhoeddi’n wythnosol ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y Cyngor. Bydd tair sialens gan gynnwys sialens 10 milltir, 50 milltir a 100 milltir yn ogystal â rhestr o deithiau cerdded mynediad hygyrch/haws. Bydd y teithiau cerdded i gyd yn hunan dywysedig.

Mae dros 2500km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn croesi Ceredigion o lwybrau hir i lwybrau byr, felly yn ystod y gwanwyn a’r haf dylai fod rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Gall cerddwyr gael copi e-daflen o’r llwybrau i helpu i’w harwain ar eu ffordd sydd ar gael o’r Adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â thref, pentref neu bentrefan ac yn dangos gwybodaeth ychwanegol megis proffil o’r llwybr, y pellter, sut wyneb sydd i’r llwybr, mannau parcio cyfleus ac a oes cyfleusterau eraill wrth law.

Atgoffir y sawl sy’n defnyddio Llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Côd Cefn Gwlad drwy’r amser. Dylai cerddwyr wisgo esgidiau cadarn a dillad sy’n briodol i’r tywydd a chymryd dŵr yfed.

online casinos UK

Dilynwch ni ar Facebook a Twitter ar @CSCeredigion yn Gymraeg ac @CeredigionCC yn Saesneg ac @CaruCeredigion ar Instagram i gymryd rhan yn y sialens. Mae rhagor o wybodaeth am y sialens ar gael ar y wefan: www.ceredigion.gov.uk/sialensgerdded

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o dîm yr Arfordir a Chefn Gwlad.

Author