Home » Sian yn Taro’r Nod!
Cymraeg

Sian yn Taro’r Nod!

Sian yn Taro’r Nod!Menyw ifanc o Wdig yw’r chwaraewr diweddaraf i ddod i amlygrwydd ym myd chwarae boccia.

Fe ymunodd Siân Jones, 33 oed, â charfan Cymru er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth agored chwarae boccia yng Nghymru a gynhaliwyd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru dros y penwythnos.

Bu deunaw chwaraewr o Gymru ac Iwerddon yn cystadlu am y gorau mewn cystadleuaeth dosbarth cymysg.Mae Siân yn cystadlu yn y categori BC2 paralympaidd ac fe wnaeth hi chwarae mewn pum gornest glòs, gan gwpla yn y 12fed safle yn y diwedd.

Angela Miles yw’r swyddog datblygu chwaraeon anabledd ar gyfer Chwaraeon Sir Benfro – y gwasanaeth datblygu chwaraeon yng Nghyngor Sir Penfro – a dywedodd hi bod Siân yn chwaraewr y dylai pawb gadw’u llygaid ar agor amdani yn y dyfodol.

“Roedd rhai o’i hergydion bowl yn wych ac os caiff hi ragor o hyfforddiant dwys rwyf yn siŵr y bydd pethau’n argoeli’n dda iddi.”

Bydd Sian yn ymarfer â chlwb Boccia Crymych Panthers yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd.

Author