Home » Siarad wast o’r radd fl aena Gan Hefi n Wyn
Cymraeg

Siarad wast o’r radd fl aena Gan Hefi n Wyn

o garreg y fendithMAE’R BWRDD CYNGHORI TWRISTIAETH, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth yn y De-ddwyrain cyn iddo gynnal ei gyfarfod ar gyfer mis Rhagfyr. Y cyfarfod o’r Bwrdd a gynhaliwyd ar Dydd Gwener, 12 Rhagfyr, oedd y cyntaf i’r aelodau newydd, sef: Neil Rowlands; George Reid; Mandy Davies; Alun Shurmer a Karl Schmidtke. Cafodd Margaret Llewellyn, Justin Albert, Stephen Leeke a Mike Morgan eu hailbenodi. Mae nhw yn ymuno â Nigel Morgan a Roy Noble.

Y cyfarfod hwn â chynrychiolwyr y diwydiant oedd y trydydd o bedwar “cwrdd â’r bwrdd” cyfarfod i’w gynnal ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru. Bydd y pedwerydd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro ym mis Ionawr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn ategu’r strwythur rhanbarthol newydd, a fydd yn fodd i feithrin cysylltiadau mwy clòs rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth er mwyn cryfhau’r trefniadau rhanbarthol, hynny bydd aelodau penodol o’r Bwrdd hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ranbarthau penodol.

Mae Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Twristiaeth, Dan Clayton Jones dywedodd: “Rydyn ni fel Bwrdd yn falch iawn ein bod wedi cael y cyfl e i gyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant yn yr ardal. Roedd yn gyfl e hynod werthfawr i glywed o lygad y ffynnon am y materion sy’n effeithio ar dwristiaeth ac ar fusnesau yn yr ardal. “Byddwn ni’n parhau i gynnal cyfarfodydd y Bwrdd ym mhob un o ranbarthau Cymru. Dw i’n edrych ’mlaen at weithio gyda’r aelodau newydd er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau twf o 10% yn y diwydiant erbyn 2020.”

Bydd Neil Rowlands yn cynrychioli’r Gogledd; bydd George Reid yn gyfrifol am y De-orllewin; bydd Mandy Davies yn cynrychioli’r De-ddwyrain a Mike Morgan y Canolbarth. Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates dywedodd: “Hoffwn i longyfarch aelodau newydd y Bwrdd Cynghori ar gael eu penodi. Dw i’n edrych ’mlaen at gydweithio â nhw. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i dwristiaeth. Mae 2014 wedi bod yn fl wyddyn wych i bob golwg, hyd yn oed o’i chymharu â 2013, a oedd yn fl wyddyn hynod lwyddiannus. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod gwerth twristiaeth ac mae’r sector hwn yn un o’r naw sector allweddol yr ydym am eu gweld yn sicrhau twf yn economi Cymru.

Dw i’n gwerthfawrogi’r profi ad a’r wybodaeth eang sydd gan aelodau’r Bwrdd.” Roedd sefydlu Bwrdd i Gynghori’r Gweinidog ar Dwristiaeth yn un o’r argymhellion allweddol a wnaed yn y Strategaeth ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’, a gafodd ei lansio y llynedd. Rôl y Bwrdd yw rhoi cyngor arbenigol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau’r diwydiant yn helpu i ddylanwadu ar bolisïau, a bod gweithgareddau yn helpu’r sector twristiaeth i dyfu ac yn cefnogi’r cyfraniad y mae’n ei wneud i economi Cymru ac o ran creu swyddi.

Author