Home » Stormydd yn datgelu golwg brin ar goedwig 10,000 mlwydd oed
Cymraeg

Stormydd yn datgelu golwg brin ar goedwig 10,000 mlwydd oed

Stormydd yn datgeluYn ystod y stormydd yn Niwgwl ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro cafodd coedwig ei datguddio a fyddai’n cael ei defnyddio gan helwyr casglwyr hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae archeolegwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o Gyngor Sir Penfro i amddiffyn olion y goedwig fel rhan o’r ymgyrch lanhau.

Cafodd arfordir Sir Benfro ei tharo’n galed gan stormydd yr wythnos ddiwethaf a Niwgwl oedd un o’r rhannau a effeithiwyd waethaf yn y Parc Cenedlaethol.

Gwthiodd y môr y clawdd amddiffynfa cerrig yn ôl ar draws y ffordd, gan olygu ei bod yn amhosib ei thramwyo, ond pan ddistawodd y tywydd stormus, datguddiwyd olion y goedwig ar y traeth.

Dywedodd Rheolwr Diwylliant a Threftadaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol Phil Bennett: “Rydym ni wedi gwybod am fodolaeth y goedwig hon ers blynyddoedd, ond dwyf i erioed wedi’i gweld mor agos at y ffordd.

“Mae’r stormydd a’r moroedd uchel wedi gwthio’r banc cerrig yn ôl a sgwrio’r tywod ar y traeth gan ddatguddio olion y goedwig. Rydym ni wedi gallu dyddio rhai o’r coedydd i’r cyfnod Mesolithig.

online casinos UK

“Ddeng mil o flynyddoedd yn ôl byddai criwiau o helwyr-casglwyr yn ymweld â’r ardal goediog hon o dro i dro, yn chwilio am helfilod a chasglu planhigion, cnau ac eirin i’w bwyta wrth i’r gwahanol bethau hyn fod ar gael yn ystod y flwyddyn.”

Mae swyddogion Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gweithio i glirio’r malurion ar ôl y stormydd ac ailagor yr unig ffordd drwy Niwgwl.

Ymwelodd Archeolegydd y Parc Cenedlaethol Pete Crane â’r safle yn ystod y gwaith glanhau i gynghori’r cyngor wrth iddyn nhw adfer y clawdd cerrig ar ben yr olion hynod fregus.

Mae’r Cyngor yn gorchuddio’r rhannau mwyaf bregus o’r coedwigoedd gyda cherrig i’w cadw, oherwydd byddai cael eu hamlygu i’r haul am gyfnod hir yn eu sychu ac yna bydden nhw’n cael eu colli.

Ychwanegodd Phil: “Mae’n hynod o bwysig fod pobl yn ymwybodol mor fregus yw’r olion hyn a’u bod yn deall y byddan nhw’n cael eu colli am byth os na wnawn ni eu hamddiffyn.”

Author