Home » Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru
Cymraeg

Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru

MANDATORY BYLINE - HUW JOHN, Cardiff 30/11/2019 Aled Hughes and Sara Huws, S4C Press [email protected] www.huwjohn.com M: 07860 256991 Instagram: huwjohn_uk

O GALEDI’r tloty i foethusrwydd tŷ bonedd, bydd cyfres newydd sbon ar S4C yn agor y drws ar straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru.

Bydd Waliau’n Siarad yn dathlu hanes a phensaernïaeth ein gwlad drwy straeon y bobl fu’n byw neu’n gweithio mewn chwe adeilad arbennig.

Bob wythnos, bydd y cyflwynwyr Aled Hughes a Sara Huws yn cael rhwydd hynt i grwydro coridorau a chorneli un adeilad penodol.

Ffermdy hynafol yng Ngheredigion gyda chysylltiadau ag oes y tywysogion, yr abatai a’r Greal Sanctaidd gaiff eu sylw yn y rhaglen gyntaf am 8yh nos Sul 12 Ionawr 2020.

Bydd Aled a Sara yn holi pam, sut a phryd y cafodd Mynachlog Fawr ei godi drws nesa at abaty eiconig Ystrad Fflur ger Tregaron.

Maen nhw’n sgwrsio gyda Charles Arch a’i chwaer Beti Williams am eu magwraeth ar y ffarm ganol y ganrif ddiwethaf, a’r ddau yn dwyn i gof hen ffordd Gymreig o fyw ac amaethu.

Mae Aled a Sara hefyd yn clywed am gyfraniad mynachod y Canol Oesoedd at ddiogelu’n llenyddiaeth, a damcaniaeth am greu canolfan tebyg i Abaty Westminster yn Ystrad Fflur i weinyddu Cymru annibynnol.

Yn gyflwynydd y gyfres gwis Rhannu ar S4C a sioe foreol BBC Radio Cymru, mae Aled wrth ei fodd yn clywed hanesion ac atgofion gan ystod eang o gyfranwyr.

“Mae gwneud y gyfres yma wir wedi bod yn fraint,” meddai Aled, sy’n dod o Lanbedrog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ar Ynys Môn.

“Dw’i a Sara wedi cael cyfle prin i fynd i mewn a chanfod mwy am chwech adeilad sy’n bwysig i’n hanes a’n hunaniaeth ni fel gwlad. Maen nhw’n gymaint mwy na waliau sych. Mae gan bob un eu straeon unigryw ac mae’r rheiny’n dod yn fyw wrth sgwrsio gyda phobl, a chlywed am eu profiadau nhw ac eraill fu’n byw neu’n gweithio yn yr adeiladau hyn.”

online casinos UK

Mae Sara Huws yn wyneb newydd ar S4C ond fel hanesydd adeiladau mae ganddi brofiad helaeth o weithio ym maes archif a hanes pensaernïaeth.

“Beth oedd yn wych am Waliau’n Siarad oedd cael cyfle i fusnesu mewn adeiladau sydd fel arfer ynghau i’r cyhoedd. Mae llefydd fel Coleg Harlech yn rhan o’n hanes ni i gyd yng Nghymru ac roedd yn fraint cael mynediad at y lle. Mae mor bwysig i ni ddathlu ac ymfalchïo yn y trysorau pensaernïol yma, a gwneud yn siwr nad yw eu straeon yn mynd yn angof,” meddai Sara sy’n gweithio yn Adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Author