Home » Un o’n cleifion yn dangos cefnogaeth i Apêl Cemo Bronglais
Cymraeg

Un o’n cleifion yn dangos cefnogaeth i Apêl Cemo Bronglais

SGWRS gyda Clive Vassell am ei driniaeth yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais ar ôl cael diagnosis o ganser y gwaed yn 55 oed.

Digwyddodd y cyfan yn sydyn iawn tra roeddwn ar wyliau yn y Weriniaeth Ddominicaidd gyda fy ngwraig Pamela. Es i’n ddifrifol wael a bu’n rhaid i mi gael fy rhuthro i’r ysbyty yno.

Roeddwn i’n cael rhithweledigaethau, roedd fy nhymheredd trwy’r to, doeddwn i ddim yn gallu sefyll, doedd gen i ddim cydbwysedd, datblygais niwmonia ac roedd angen trallwysiadau gwaed arnaf. Roedd yn hunllef i fy ngwraig hefyd, nad oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd.

Yn ôl yng Nghymru, gwelais fy meddyg a mynd am brofion gwaed. Ym mis Rhagfyr 2018 cefais ddiagnosis o myeloma ymledol, sef canser sy’n ffurfio yn eich celloedd gwaed gwyn, yn cronni ym mêr yr esgyrn ac yn llenwi’r celloedd plasma iach sy’n eich helpu i frwydro yn erbyn haint.

Roedd yn llawer i ddelio ag ef, i mi a fy ngwraig. Dim ond y flwyddyn flaenorol yr oeddwn wedi camu i lawr o yrfa 30 mlynedd mewn rheoli manwerthu, gan symud o Lundain i gael bywyd tawelach yng nghefn gwlad gogledd Cymru yng Nghorris. Nawr, dyma fi yn ymladd cancr.

Roeddwn i’n cael fy sesiwn cemotherapi gyntaf yn Ysbyty Bronglais ar Noswyl Nadolig a dilynwyd hyn gan arllwysiadau dwy neu dair wythnos am saith mis.

online casinos UK

Yna ces i drawsblaniad mêr esgyrn yn Abertawe ac rydw i wedi bod yn iach byth ers hynny.

Cymerodd 12 mis i mi ddod yn ôl i deimlo’n normal ar ôl y trawsblaniad. Cefais fy ngadael heb unrhyw system imiwnedd, roeddwn yn teimlo’n wan iawn, yn cael trafferth bwyta ac yfed a bu’n rhaid i fy ngwraig a minnau warchod rhag teulu a ffrindiau, gan gynnwys fy nau lysblant a’r wyrion a’r wyresau.

Rwy’n dal i fynd i’r uned ddydd yn Ysbyty Bronglais bob dau fis, i gael trwyth Zometa i helpu i gryfhau fy esgyrn. Mae’r gefnogaeth yn wych.

Yn ystod y driniaeth cemotherapi, roedd yn ddechrau cynnar yn aml. Byddai Pamela yn fy ngyrru tua 25 milltir o gartref i’r ysbyty.

Unwaith yn yr uned ddydd cemotherapi, byddwn yn cael croeso ac yn cael fy dangos i gadair. Cyn-COVID byddai fy ngwraig yn gallu dod i mewn gyda mi i’m cefnogi, ond nawr pan fyddaf yn mynychu’r therapi cynnal a chadw mae’n rhaid i mi fynd i mewn ar fy mhen fy hun ac mae’n aros yn y car.

Unwaith y byddwch yn y gadair, byddai nyrs yn siarad â chi am yr hyn fyddai’n digwydd ac yn gofyn sawl cwestiwn am fy iechyd, yn enwedig am fy ngheg oherwydd mae’n bwysig nad oes gennych unrhyw broblemau deintyddol os ydych yn cael cemotherapi.

Yna byddwn yn cael pigiad yn fy stumog a byddwn yn derbyn cemotherapi am tua hanner awr ar y tro. Dim ond mater o eistedd yno a cheisio ymlacio oedd hi.

Ar y cyfan, byddwn yn yr uned am tua 90 munud bob tro. Roedd y driniaeth bob amser yn eithriadol. Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn, gan wybod fy mod mewn dwylo diogel.

Ar ôl fy sesiwn, byddwn yn mynd adref, yn gorwedd i lawr ac yn ceisio bod mor gyfforddus â phosibl. Roeddwn i’n teimlo’n gyfoglyd ac o bryd i’w gilydd byddwn yn chwydu ar ôl triniaeth. Roeddwn i ar

15 o dabledi gwahanol y dydd ac ar y pryd roedd gen i lawer o boen yn fy mysedd, bysedd traed a chefn.

Mae’r tîm yn Ysbyty Bronglais yn wych ond nid yw amgylchedd ffisegol yr uned yn ddelfrydol. Rydych chi’n gorfod delio â’r ffaith bod gennych chi ganser felly byddai man mwy preifat yn well.

Rwyf mor falch bod Apêl Cemo Bronglais wedi’i lansio i godi’r arian sydd ei angen fel y gellir adeiladu uned ddydd newydd. Dyna mae cleifion a staff yn ei haeddu. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwahaniaeth y bydd uned bwrpasol yn ei wneud.

Os hoffech gefnogi Apêl Cemo Bronglais, gallwch gael rhagor o wybodaeth yn www.elusennauiechydbihyweldda.org.uk

Author