Home » Y Cyngor yn cyhoeddi gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd
Cymraeg News Top News

Y Cyngor yn cyhoeddi gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd £2.2 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ffyrdd Sir Gaerfyrddin dros y misoedd nesaf.

Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar ryw 50 o ddarnau ffordd ar ôl i arian ddod ar gael o raglen gwaith cyfalaf y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn ychwanegol at raglen o waith ataliol sydd eisoes wedi dechrau.

Bydd trefniadau rheoli traffig cynhwysfawr ar waith tra bod y gwaith yn cael ei wneud, a bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw gyda manylion ar gael ar https://one.network/tm.

Bydd angen cau rhai darnau ffordd am gyfnod byr, ond bydd y gwaith hwn yn cael ei gynllunio er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Bydd yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â’r canllawiau diweddaraf o ran Covid-19.

online casinos UK

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn swm sylweddol o arian yr ydym wedi’i sicrhau i wella ein ffyrdd yn y sir.

All roadworks will be publicised in advance so motorists can plan their journeys

“Er na allwn drin pob ffordd, gyda’i gilydd bydd y gwelliannau o gymorth i wella siwrneiau i ddefnyddwyr ffyrdd Sir Gaerfyrddin a’u gwneud yn fwy diogel.

“Bydd yr holl waith ffyrdd yn cael ei gyhoeddi ymlaen llaw fel y gall modurwyr gynllunio eu teithiau i osgoi’r ardal a dilyn llwybr arall. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr ffyrdd drwy gynllunio’n ofalus; fodd bynnag, mae’n anochel y bydd hyn yn tarfu ar bethau i ryw raddau, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar. Rydym yn diolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a’u hamynedd.”

Author