Home » Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon yn ffurfio partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru
Cymraeg

Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon yn ffurfio partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru

Mae’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) a Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd, sydd â’r nod o wneud nofio a chwaraeon dŵr eraill yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru.

Ystyrir bod y bartneriaeth yn garreg filltir i’r ddau sefydliad. Nid yn unig mae’r cytundeb yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb presennol yn y sector chwaraeon dŵr, ond hefyd dyma’r tro cyntaf i’r BSA gael presenoldeb yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad hefyd flwyddyn ar ôl i Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon eraill y DU gomisiynu’r Adolygiad Mynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS), gan gydnabod bod angen gwneud mwy ‘i wneud chwaraeon yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn amrywiol’ ar bob lefel.

“Fel rhywun sy’n Gymraes ac a gafodd ei magu fel athletwraig yng Nghaerdydd, ’allwn i ddim bod yn hapusach am ein partneriaeth newydd ni gyda Chwaraeon Cymru,” meddai cydsylfaenydd y BSA, Seren Jones, a oedd yn nofio yn gystadleuol dros Glwb Nofio Dinas Caerdydd .

“Mae gweithio yng Nghymru yn golygu y bydd ein hymchwil a’n rhaglenni sydd eisoes ar waith yn Lloegr yn cael eu trosglwyddo, eu gweithredu a’u datblygu yma. Wrth i ni ehangu, felly hefyd ein partneriaethau gyda’r sector chwaraeon dŵr yng Nghymru, yn ogystal â’n perthnasoedd gyda chymunedau yng Nghymru.”

“Mae gweithio gyda Chwaraeon Cymru nid yn unig yn golygu bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn llwyddiannus ac yn cynyddu, ond hefyd mae’n golygu y gallwn weithio gyda’n gilydd i gynnwys mwy o bobl o gymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yng Nghymru mewn addysg diogelwch dŵr, nofio a phopeth sydd gan y sector chwaraeon dŵr yng Nghymru i’w gynnig,” meddai Danielle Obe, cydsylfaenydd a Chadeirydd y BSA.

online casinos UK

Bydd y bartneriaeth yn arwain at greu swydd Rheolwr Darparu Rhaglenni’r BSA wedi’i lleoli ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, lle mae prif swyddfa Chwaraeon Cymru hefyd wedi’i lleoli. Nid yn unig y bydd y rôl yn sicrhau bod rhaglenni dŵr presennol y BSA yn cael eu datblygu yng Nghymru, ond bydd hefyd yn rhoi pwyslais ar ymgysylltu â chymunedau drwy feithrin perthnasoedd hirdymor â chymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yn Ne Cymru.

Bydd y gwaith hefyd yn cyfrannu tuag at weithgareddau ymchwil cymdeithasol rhagarweiniol ledled Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, a fydd yn cyfrannu at yr ymchwil a’r canfyddiadau mae’r elusen eisoes yn eu cynnal yn Lloegr.

Yn ychwanegol at y rhaglen ymchwil a chlinigau gweithgareddau dŵr, mae’r BSA hefyd yn bwriadu rhoi sylw i’r anghydraddoldeb hiliol yng ngweithlu gweithgareddau dŵr y DU drwy gynyddu nifer y bobl o dras Ddu ac Asiaidd 25% erbyn 2024. Ar hyn o bryd, mae llai na 3% o achubwyr bywyd, hyfforddwyr nofio a gwirfoddolwyr yn y sector yn dod o gymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd.

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Er mwyn gwneud chwaraeon yn fwy croesawgar, cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru, rydyn ni eisiau ehangu ein rhwydweithiau fel ein bod yn gweithio gyda mwy o arbenigwyr sydd â gwell dealltwriaeth o’r cymunedau rydyn ni’n ceisio ymgysylltu â hwy.

“Rydyn ni felly wrth ein bodd yn creu’r bartneriaeth newydd yma gyda’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon i wella’r cyfleoedd i bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr. Mae gennym ni ddiddordeb mawr yn ymchwil y BSA i’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad y mae cymunedau amrywiol yn eu hwynebu, yn ogystal â’u cynlluniau ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth pobl Dduon ac Asiaidd yn y gweithlu gweithgareddau dŵr.

“Drwy gael gweithluoedd a gwirfoddolwyr o gefndiroedd mwy amrywiol, gall chwaraeon yng Nghymru wireddu’r manteision sy’n deillio o ystod ehangach o safbwyntiau, profiadau, sgiliau a thalentau.

“Yr un mor bwysig hefyd, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut gall y BSA ategu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Nofio Cymru a sefydliadau eraill o fewn ein rhwydwaith partneriaid ehangach presennol.”

Author